Bywyd gwyllt yng Nghastell Penrhyn

Mae Llanerchaeron yn hafan i fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn

Dewch am dro o amgylch tiroedd Castell Penrhyn i weld y bywyd gwyllt sydd i’w ganfod ar hyd y daith.

Dewch am dro o amgylch tiroedd Penrhyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ac mae’n debygol iawn y byddwch yn gweld rhywfaint o’r bywyd gwyllt sy’n rhannu tiroedd y castell gyda’r ymwelwyr a’r gymuned leol. 


Un o’r ymwelwyr mwyaf cyson a chyfeillgar yw’r robin goch, sydd i’w weld yn aml yn y cwrt ger y ceginau Fictoraidd ac mewn gwahanol leoedd yn yr ardd. Mae’r robin goch yn perthyn i deulu’r fronfraith, fel y mae’r fwyalch a’r eos. Mae ein robinod coch mor gyfarwydd â’r ymwelwyr fel y bydd rhai ohonynt hyd yn oed yn fodlon pigo bwyd o’ch llaw, ond dim ond os allwch eistedd yn llonydd iawn. Ar nodyn mwy trist, yn ystod oes Fictoria, roedd pobl yn defnyddio croen y robin goch i addurno hetiau merched; mae lliw coch hardd y plu ar eu brestiau yn amlwg iawn yn ystod misoedd llwm y flwyddyn. 

Robin goch cyfeillgar iawn yng Nghastell Penrhyn
Robin goch ar frigyn ger y ganolfan ymwelwyr yng Nghastell Penrhyn

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r robinod gwryw a benyw yn amddiffyn eu tiriogaeth ac mae eu cân yr un peth ar yr adeg hwn. Mae robinod yn hollysol, ac maen nhw’n bwyta bron iawn popeth o ffrwythau i drychfilod bach. Maen nhw’n arbennig o hoff o gynrhon y blawd!

Rhywogaeth arall o adar a welir yn aml yn bwydo ar y porthwyr adar ger y ganolfan ymwelwyr yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf yw gwahanol aelodau’r teulu titwod.

Gyda’i gyfuniad trawiadol o blu glas, melyn, gwyn a gwyrdd, y titw tomos las yw un o ymwelwyr mwyaf deniadol yr ardd. Yn y gaeaf, bydd heidiau o deuluoedd yn ymuno â thitwod eraill i chwilio am fwyd.  Cadwch lygad am y rhai ifanc sy’n tueddu i gael bochau melyn nes iddynt aeddfedu a throi’n wyn.

Nid yw titwod penddu mor lliwgar â’u cefndryd ond maen nhw’r un mor ddifyr. Mae eu pig ychydig yn fwy main na’r titw tomos gan olygu eu bod yn gallu bwyta o’r conwydd cyfagos.  Yn ystod y gaeaf, maen nhw’n aml i’w gweld o amgylch y porthwyr adar ac mae’n ymddangos eu bod yn arbennig o hoff o bysgnau.

Mae sgrech y coed yn perthyn i deulu’r frân ond mae’n llawer mwy lliwgar na’i chefndryd.  Mae sgrechod y coed i’w gweld ar diroedd Penrhyn gan eu bod yn arbennig o hoff o’r mês sydd ar y coed derw cyfagos.  Maen nhw’n adar eithaf swil ac yn tueddu i aros o dan y dail a chadw o’r golwg, felly mae gweld un yn y canghennau yn dipyn o fraint.  Mae sgrech y coed yn aderyn sy’n hoffi paratoi a bydd yn claddu mês yn ystod yr hydref ar gyfer misoedd oerach y gaeaf. 

A jay enjoying the view on the parterre
A close up of a jay sitting on topiary

Gan droi i ffwrdd o’r adar sy’n ymweld â ni yn rheolaidd, mae teulu o foch daear hefyd yn byw ar ein tiroedd. Mae moch daear yn famaliaid trawiadol ac maen nhw’n aml i’w gweld gyda’r nos yn yr ardaloedd coediog o amgylch y castell. Mae’r term brocc yn hen air Saesneg am fochyn daear, ac mae’n ymddangos mewn enwau lleoedd fel Brockenhurst yn Hampshire.  Mae moch daear yn byw mewn deyerydd a gallant fyw am hyd at 15 mlynedd mewn un daear. Un arwydd bod daear moch daear gerllaw yw coeden ag ôl crafangau arbennig arno. Maen nhw’n aml yn defnyddio coeden gyfagos i grafu a chadw eu crafangau yn finiog ar gyfer tyllu. 

Yma ym Mhenrhyn mae dau fath o ystlum hefyd yn byw ar ein tiroedd ac mewn rhannau o’r castell ei hun. 

Yr ystlum lleiaf (pipistrelle) yw’r lleiaf a’r mwyaf cyffredin o blith y 18 rhywogaeth o ystlumod sy’n byw ym Mhrydain. Maen nhw hefyd yn cael eu galw yn ystlumod cyffredin ac maen nhw’n aml i’w gweld yn gynharach gyda’r nos na rhywogaethau ystlumod eraill.  Mae’n hedfan mewn patrwm herciog gan esbonio’r hen enw Saesneg am ystlum sef  'flittermouse'.
 

A brown long-eared bat (Plecotus auritus) emerges from its roost in a log
Brown long-eared bat (Plecotus auritus) emerging from log roost

Mae’r ystlum hirglust hefyd i’w weld ar ein tiroedd.  Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae ganddo glustiau hir iawn sydd bron iawn yr un hyd â’i gorff ac mae’r clustiau weithiau wedi’u plygu o dan ei adenydd. Mae ystlumod hirglust fel arfer yn byw mewn heidiau bach, tawel sy’n cynnwys tua 20 ystlum.  Maen nhw’n eithaf prin ac yn anos eu gweld na’r ystlum lleiaf bywiog, ond maen nhw i’w gweld yn hedfan yn weddol isel yn ystod misoedd tywyllach y gaeaf.