Ôl-effeithiau dau anghydfod byrrach, yn 1874 ac 1896, a arweiniodd at ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Cododd y rhain yn dilyn trafodaethau ynghylch hawl gweithwyr i fynd i Ŵyl Lafur a mater y ‘fargen’. Trefn o weithio a oedd yn amddiffyn enillion y chwarelwyr gan fod cymaint o amrywiaeth yn ansawdd y graig ac yn caniatáu iddynt eu hystyried eu hunain yn gontractwyr yn hytrach nag yn gyflogedigion oedd y ‘fargen’.
Bu’r Arglwydd Penrhyn a’i asiant E. A. Young yn brwydro yn erbyn datblygiad undebaeth ymhlith eu gweithlu a thraddodiad y ‘fargen’ ers sawl blwyddyn. Roeddent yn gwneud eu gorau glas i ddileu dylanwad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru o'r chwarel.
Ym mis Ebrill 1900, cyhoeddodd rheolwr y chwarel, Mr Emilius Young, na fyddai cyfraniadau undeb yn cael eu casglu yn y chwarel.
Tyndra’n troi’n drais
Daeth y tyndra rhwng y perchennog a’r gweithwyr i benllanw ar 26 Hydref 1900 pan ymosodwyd ar nifer o gontractwyr a oedd wedi taro bargen.
Gwnaeth yr Arglwydd Penrhyn gyhuddiadau o ymosod ar 26 o chwarelwyr ac fe’u diswyddwyd o’r chwarel – a hynny cyn i’w hachos gael ei glywed gerbron Llys yr Ynadon.
Pan ddaeth y mater i’r llys, gorymdeithiodd chwarelwyr y Penrhyn i Fangor i ddangos eu cefnogaeth i’r rhai a gyhuddwyd ac fe gawsant i gyd eu hatal o’u gwaith am bythefnos. Daeth yr orymdaith hon yn symbol o undod y chwarelwyr. Roedd sôn iddynt droi eu pennau i wynebu’r ffordd arall wrth orymdeithio heibio i gatiau’r castell.
Yn yr achos llys, dim ond 6 o’r 26 a gyhuddwyd a gafwyd yn euog ac a ddirwywyd. Mewn ymateb i’r tyndra cynyddol, galwodd Prif Gwnstabl y Sir ar y fyddin ac fe’i beirniadwyd gan nifer o gyrff cyhoedus yn cynnwys ei Gyngor Sir ei hunan. Aeth y chwarelwyr a ataliwyd o’u gwaith yn ôl i’r chwarel ar 19 Tachwedd 1900 ond roedd wyth o’r ponciau ar gau, gan adael 800 o ddynion heb fargen.
Dridiau yn ddiweddarach, ar 22 Tachwedd, cyrhaeddodd 2,000 o chwarelwyr i’r chwarel fel arfer ond gwrthod gweithio hyd nes i’r 800 arall gael bargen. Y bore hwnnw, cawsant ddewis gan Young - “Go on working or leave the quarry quietly”. Cerdded allan a wnaethant ac roedd Streic Fawr 1900-03 wedi dechrau. Ni fyddai bywyd fyth yr un fath yno eto.