Fedrwch chi ddim curo stori dda

Does dim byd gwell na stori dda i’ch tynnu chi allan o’ch byd cyfarwydd am sbel. Ac mae ar stori dda angen cymeriadau da, crwn, sy’n dod â’r naratif yn fyw. Heb y rhain, does gennym ni ddim ond cragen, syniad, ond dim cysylltiad emosiynol … dyna beth yw Castell Penrhyn ar hyn o bryd.

Dydi’r stori ddim wedi ei dweud yn llawn ac mae ’na gymeriadau cryf a diddorol wedi eu gadael allan. Fe allem ni garu neu gasáu’r cymeriadau yma ond fe fyddan nhw’n ein helpu i ddeall byd sy’n wahanol iawn i’n byd ni heddiw.

Hanes cyfoethog a dadleuol

Mae hanes Stad Penrhyn yn un cyfoethog, cymhleth a dadleuol. Mae’n ymestyn ymhell tu hwnt i furiau castell ffug Neo-Normanaidd enfawr Thomas Hopper ar y bryn uwch Llandygai.

Mae’n ymestyn draw i Jamaica ac i bedair planhigfa siwgr preifat teulu’r Pennant yn ardal Clarendon. Mae’n cyffwrdd miloedd o bobl o Orllewin Affrica a gafodd eu gwneud yn gaethweision i weithio yno am gyfnod o dros ddwy ganrif gan greu’r cyfoeth enfawr a alluogodd y teulu i agor Chwarel Bethesda ac adeiladu Porth Penrhyn a’r Castell. Heb anghofio Caesar, y gwas du oedd wedi’i restru fel un o’r eitemau yng ngwaddol priodas Bonella Hodges pan ddaeth yn wraig i John Pennant.

Merched cryf ac annibynnol

Yn rhan o’r hanes hefyd mae llawer o fenywod nad ydyn ni wedi cael clywed eu straeon o’r blaen. Menywod fel Anna Susannah Warburton, yr Arglwyddes neu ‘Lady’ Penrhyn cyntaf a briododd Richard Pennant, gan ddod â hanner y stad yng ngogledd Cymru a nifer o blanhigfeydd yn Jamaica gyda hi i’r briodas. Drwyddi hi y cafodd Richard y teitl a’r arglwyddiaeth.

Anna Susannah Warburton, yr Arglwyddes Penrhyn gyntaf.
Anna Susannah Warburton, yr Arglwyddes Penrhyn gyntaf. Darlun sydd i’w weld yng Nghastell Penrhyn.

Mae hefyd yn cynnwys 101 o ferched a gludwyd i Awstralia ar daith gyntaf llong y Lady Penrhyn oedd yn rhan o’r hyn a elwir erbyn hyn yn y Fflyd Gyntaf. A pheidiwch ag anghofio 11 o ferched George Sholto Douglas Pennant o’i ddwy briodas, i gyd wedi byw yn y castell ar un adeg ac i gyd wedi byw bywydau llawn, annibynnol, gyda diddordeb yn y celfyddydau, gwleidyddiaeth, garddio, ffotograffiaeth a mwy.

Cloi allan o’r chwarel

Ac yna mae’r chwarelwyr a gafodd eu cloi allan rhwng 1900 a 1903 o chwarel lechi Bethesda oedd yn eiddo i Pennant, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Fe wnaeth hyd y streic a’i ffyrnigrwydd hollti a dinistrio cymuned Bethesda, ond fe gafodd effaith fawr at gyfoeth y teulu Douglas-Pennant hefyd. 

Cofeb i’r Streic Fawr ym Methesda
Cofeb i’r Streic Fawr ym Methesda

Roedd na nifer o brif gymeriadau yn yr anghydfod, gan gynnwys yr AS Rhyddfrydol a gollodd achos enllib yn erbyn Arglwydd Penrhyn, W.J. Parry. Hefyd E.A. Young, rheolwr y chwarel oedd yn destun cymaint o gasineb, ac amryw o arweinwyr a chynrychiolwyr Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Fedrwn ni ddim anwybyddu gwragedd gweithwyr chwarel Bethesda a ysgrifennodd at Arglwyddes Penrhyn, ail wraig George Sholto, yn ystod yr anghydfod hir a gaeodd y chwarel am dair blynedd gan adael cynifer heb incwm ar ddechrau’r 20fed ganrif. 

Hen lun o Octavia Hill; un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Octavia Hill

Yn olaf, ddylem ni ddim anghofio Octavia Hill o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tua’r un cyfnod â’r streic, a ddangosodd ei phryder dwfn am les y dosbarth gweithiol a phwysigrwydd tai a sicrhau bod llefydd agored ac awyr iach ar gael i bob un ohonom ni. Fel un o sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fe greodd hi’r amodau a ganiataodd i lefydd fel Castell Penrhyn a llawer o’r stad gael ei drosglwyddo i berchenogaeth gyhoeddus, i’w gadw am byth, i bawb.

Darlun anghyflawn

Mae beth sy’n cael ei ddangos yn y castell ar hyn o bryd yn cynrychioli rhan fach iawn o’r straeon hyn ac mae cymaint o’r prif gymeriadau ar goll.

Mae’r stori sy’n cael ei dweud ymhell o fod yn gyflawn ac yn anwybyddu, neu’n osgoi, elfennau mwy anodd o’n treftadaeth. Mae hyn yn gwadu’r lle sydd gan nifer o’r bobl hyn yn y dreftadaeth honno ac yn rhwystro eu disgynyddion rhag gwerthfawrogi, mwynhau a chymryd rhan yn y gwaddol yma, a chael eu cyfoethogi ganddo.

Dyna beth fyddwn yn ei archwilio yn Penrhyn wrth weithio tuag at gyflwyno fersiwn llawer agosach at y gwir o stori’r stad a’r bobl sy’n gysylltiedig efo hi.  Bydd llawer yn edrych fel pe bai’n aros ’run fath a bydd llawer yn newid. Mae maint, amrywiaeth a chynllun y Castell yn rhoi cyfle i ni ddweud gwahanol straeon ochr yn ochr â’i gilydd ac yn caniatáu inni gyflwyno elfennau newydd, heb amharu ar yr hen rai, na chymryd eu lle.