Er ei bod hi’n aeaf mae digon i’w weld a’i wneud yn y gerddi y tymor yma. A dweud y gwir mae hwn yn amser prysur iawn o’r flwyddyn i’r garddwyr.
Y gaeaf yw un o’r adegau gorau i fwynhau’r olygfa o’r ardd. Mae awyr oer y gaeaf yn rhoi golygfeydd clir ichi o’r wlad o’ch cwmpas.
Gardd â golygfa
O’r lawnt lle mae’r goeden fasarn (y ‘Maple Lawn’) a chefn y castell gallwch weld yn glir ar hyd arfordir y goledd draw am Landudno, y Gogarth ac Ynys Seiriol.
Mae blaen y castell a’r gerddi yn wynebu Eryri ac mi gewch olygfeydd trawiadol o’r Carneddau ar ddiwrnod clir.
Cafodd y castell ei hun ei godi’n fwriadol er mwyn i’r teulu allu gweld yn syth draw at Chwarel y Penrhyn ym Methesda.
Dilyn eich trwyn
Wyddech chi fod croeso i gŵn ym mron iawn pob rhan o’r ardd, hyd yn oed yn yr Ardd Furiog?
Mae Castell Penrhyn yn cynnig y cyfuniad perffaith o lawnt a llwybrau drwy’r coed ar gyfer mynd â’r ci am dro. Gallwch ddilyn ein llwybr hirach o gwmpas ffiniau’r gerddi neu grwydro yn eich pwysau eich hun.
Dewch â’ch ci i Gastell Penrhyn
National Trust
Dewch â’ch ci i Gastell Penrhyn
Rydyn ni yn gofyn ichi gadw eich ffrindiau pedair coes ar dennyn tyn ac osgoi rhannau mwy sensitif yr ardd fel yr Ardd Furiog a’r Gampfa Awyr Agored/Lle Chwarae’r Plant.
Peidiwch anghofio nôl danteithion i’r ci ar y ffordd allan!
Hwyl i’r teulu i gyd
Beth bynnag yw’r tywydd, mae digon o weithgareddau i’w croesi oddi ar eich rhestr 50 o bethau. Rhowch eich traed mewn welis, cydiwch mewn map 50 o bethau o’r ganolfan groeso ac i ffwrdd â chi!
Wrth inni ffarwelio â’r gaeaf mae arwyddion y gwanwyn yn werth eu gweld yn Penrhyn gyda’r Ardd Furiog a’r coedlannau yn llefydd perffaith i fwynhau blodau hwyr y gaeaf a’r Lili Wen Fach.