Gofalu am ein gwenyn mêl cynhenid

Llun agos o wenyn mewn cwch gwenyn

Mae trigolion newydd wedi ymgartrefu ym Mhlas Newydd a Chastell Penrhyn yn ddiweddar. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi croesawu cychod gwenyn yn llawn gwenyn mêl cynhenid i’n gerddi - ac maent wrth eu bodd o gael bod yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gofalu am fyd natur yn rhan bwysig o waith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. O ymgyrchu i achub a gwarchod lleoedd pwysig ar ein glannau i greu lle arbennig ar gyfer byd natur trwy brynu safleoedd botanegol o fri rhyngwladol fel Fferm y Parc ar Ben y Gogarth – yr unig le yn y byd y mae cotoneaster (neu greigafal) y Gogarth yn tyfu a chartref dwy isrywogaeth unigryw o löynnod byw; Gweirlöyn Llwyd y Gogarth a’r Glesyn Serennog.

Fel rhan o’n hymrwymiad i ofalu am fyd natur, mae’r wenynwraig leol, Katie Hayward, sydd hefyd yn denant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ein helpu i sicrhau bod y gwenyn yn ymgartrefu’n hapus yn ein gerddi.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Katie, sy'n rhedeg fferm fêl a chanolfan addysg Felin Honeybees yng Nghemlyn ar lannau gogledd Môn, wedi dod â rhai o’i chychod gwenyn i Gastell Penrhyn a Phlas Newydd.

Ar ôl rhoi amser i Katie a’i ‘genod’ setlo, roedden ni’n meddwl ei bod yn bryd i ni ddysgu mwy am y prosiect i ofalu am ein gwenyn cynhenid a helpu’n gerddi i flodeuo - felly mi aethon ni i’w charpet bag hi dros baned…
 

Mae Katie’n gwneud llawer o waith addysgol, gyda chymorth ei chwch gwenyn tryloyw arbennig.
Katie Hayward a’i chwch gwenyn gwydr addysgol
Mae Katie’n gwneud llawer o waith addysgol, gyda chymorth ei chwch gwenyn tryloyw arbennig.

Beth wnaeth i chi benderfynu cadw gwenyn?

Mi wnes i syrthio mewn cariad â gwenyn ryw 20 mlynedd yn ôl a dewis cadw gwenyn fel ffordd o ddianc rhag pwysau gwaith a minnau mewn gyrfa heriol fel rheolwr prosiectau adeiladu.

Roeddwn i’n rhuthro o gwmpas trwy’r amser yn fy ngwaith ond ro’n i’n cael cyfle i arafu gyda’r gwenyn achos allwch chi ddim rhuthro byd natur.
 

Pam wnaethoch chi ddewis rhoi’ch cychod gwenyn yng Nghastell Penrhyn a Phlas Newydd?

Mae peillio yn hollbwysig i blanhigion ac mae angen gwenyn ar ein gerddi rhestredig heddiw fwy nag erioed. Dw i’n falch o gael helpu.

Mae gen i gysylltiadau teuluol â Phlas Newydd a Chastell Penrhyn. Roedd perthynas i mi yn weinidog i’r chwarelwyr a gododd Gastell Penrhyn a pherthynas arall yn wniadwraig i Ardalyddes Môn. Yn wir, mae dilledyn a wnaeth hi yn cael ei arddangos yn y tŷ. Mae’r ddau le yn rhyfeddol ac mi gawsen nhw eu colli heb ymroddiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
 

Sawl cwch gwenyn sydd yng Nghastell Penrhyn a Phlas Newydd?

Mae gennym ni ddeg cwch ym Mhlas Newydd sy’n chwarae rhan hanfodol yn peillio Dôl y Coroni a’r gerddi a chwe chwch yng Nghastell Penrhyn sy’n peillio’r ardal o gwmpas yr Ardd Furiog a’r Ardd Ddŵr.

Pa fath o wenyn ydyn nhw?

Gwenyn duon cynhenid yw ein gwenyn ni ac fe gawson nhw’u dewis am eu bod yn wenyn addfwyn, hyfryd. Maen nhw hefyd yn ymdopi’n dda iawn â’r tywydd cyfnewidiol a gawn yn y gogledd.

Pa fathau o flodau neu blanhigion y maen nhw’n eu hoffi?

Mae gwenyn mêl wrth eu bodd ag unrhyw flodau sy’n cynhyrchu neithdar a phaill ond maen nhw’n arbennig o hoff o’r clustiau ŵyn a’r lafant ger y plasty ym Mhlas Newydd!  Bydd y genod hyd yn oed yn pôsio i ymwelwyr dynnu eu lluniau. 

Mae amrywiaeth y blodau yng Nghastell Penrhyn, o eirlysiau swil i’r bwa ffiwsias hardd, yn eu plesio’n fawr hefyd.

Y peth gorau yw bod dylunwyr medrus y gerddi, dros ganrif yn ôl, wedi’u cynllunio i flodeuo trwy gydol y flwyddyn ac mae hynny’n wych i’r gwenyn.

Pan gafodd y gerddi eu dylunio, byddai gwenynwr preswyl, fel fi, yma i sicrhau bod y blodau'n para am genedlaethau i bobl gael eu mwynhau. Mae'n braf ein bod ninnau'n gallu chwarae rhan fach yn gwneud hynny eto yn awr.
 

Faint o fêl maen nhw’n ei gynhyrchu a beth sy’n digwydd iddo?

Mae pob cwch yn cynhyrchu tua chan pwys o fêl mewn tymor a, cyn hir, byddwn yn gwerthu ein mêl yn y tai fel y gall ymwelwyr fynd â blas bach o Gastell Penrhyn a Phlas Newydd adre gyda nhw.

Dim ond un o’r ffyrdd rydym yn helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol yw gofalu am wenyn cynhenid.
Gwenynwyr yn mynd ati’n ofalus i dynnu ffrâm o gwch gwenyn.
Dim ond un o’r ffyrdd rydym yn helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol yw gofalu am wenyn cynhenid.

Ydi gwenyn yn gaeafgysgu?

Mae gofalu am ein gwenyn yn waith llawn amser, trwy gydol y flwyddyn, gan nad yw gwenyn mêl yn cysgu nac yn gaeafgysgu. Rydym yn gofalu amdanynt, boed law neu hindda, 12 mis y flwyddyn.

Beth yw’r prif fygythiadau i wenyn?

Mae llawer iawn o fygythiadau ond y pedwar prif fygythiad yw newid yn yr hinsawdd, plaleiddiaid, colli cynefinoedd a’r llu o wahanol glefydau sy’n dod trwy fewnforio gwenyn.

Y bygythiad mawr diweddaraf yw Cacynen Feirch Asia a gyrhaeddodd i’r Deyrnas Unedig yr hydref diwethaf. Y goresgynnwr hwn yw hunllef waethaf gwenynwyr a gallai gael effaith ddinistriol iawn. Byddwn yn gofyn i ymwelwyr gadw’u llygaid yn agored a rhoi gwybod i ni ar unwaith os gwelant un.
 

Sut allwn ni helpu ac a oes angen gwenynwyr gwirfoddol arnoch?

Mae croeso i wenynwyr gwirfoddol trwy’r flwyddyn ac, fel gwirfoddolwr, byddwch yn ennill cymhwyster mewn gwenyna ac yn cael help i roi’r gofal y mae ein genod yn ei haeddu.

Rydym yn rheoli ein gwenyn ar lawer o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gweirgloddiau eraill ledled y gogledd. Y tu ôl i’r llenni, mae arnom angen help hefyd i ofalu am ein cychod a’u paentio ac felly mae angen artistiaid a seiri coed arnom bob amser.
 

Cewch chithau ddysgu bod yn wenynwr a helpu i ofalu am ein gwenyn.
Gwenynwyr gwirfoddol yn cael hyfforddiant gyda Felin Honeybees ar fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghemlyn, Ynys Môn
Cewch chithau ddysgu bod yn wenynwr a helpu i ofalu am ein gwenyn.

Pe bai gan rywun ddiddordeb mewn dechrau cadw gwenyn, sut fydden nhw’n mynd o’i chwmpas?

Rydyn ni’n rhedeg Cwrs Cadw Gwenyn i ddechreuwyr yma yng Nghemlyn gan drefnu i chi gael eich cwch cyntaf a gwenyn lleol a’ch cefnogi trwy'r flwyddyn gyntaf bwysig.

Gall unrhyw un fod yn wenynwr – rydyn ni'n dysgu pobl rhwng tair ac 80 oed. Unwaith y gwnewch chi gyfarfod â'r genod, fyddwch chi wedi gwirioni. I gadw lle ar gwrs, gall pobl anfon neges ebost atom yn info@felinhoneybees.com.

Yn olaf, beth yw’ch hoff bum ffaith am wenyn?

  • Mae gwenyn wedi bod o gwmpas ers 93 miliwn o flynyddoedd
  • Gwenyn yw’r unig bryfed sy’n cynhyrchu bwyd i ni
  • Gwnaed y cwch gwenyn cyntaf gan yr Eifftiaid a oedd yn addoli’r wenynen fêl fel duw
  • Mae gwenyn mewn trafferthion MAWR ac angen ein help ni arnyn nhw RŴAN er mwyn goroesi
  • Heb y wenynen fêl, ni fyddai’r byd fel rydyn ni’n ei nabod yn para am ddegawd arall. Wir - mae mor ddifrifol â hynny!

 

Cewch ymweld â’r gwenyn a chwrdd â Katie yng Nghastell Penrhyn dros benwythnos y Pasg neu ym Mhlas Newydd yn ystod Wythnos Gwenyn  ym mis Gorffennaf.

 

Digwyddiadau gwenynaidd ym Mhlas Newydd a Chastell Penrhyn