Mae Rhian Cahill, Rheolwr Profiadau Ymwelwyr, yn esbonio pam y dewisodd Castell Penrhyn fod yn rhan o’r prosiect:
“Mae celfyddyd wedi dod yn rhan fawr o’n rhaglen yng Nghastell Penrhyn ac mae’r gosodwaith hwn yn cyfateb yn union i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. “Amser” yw ein thema eleni; amser i ymlacio, y newid yn y tymhorau, ein perthynas ni ag amser ac amser i newid.
“Yn ogystal â’r darn anhygoel hwn o gelfyddyd, rŷn ni wrth ein bodd o fod wedi llwyddo i gomisiynu awdur lleol i edrych ar berthynas Castell Penrhyn ag amser a’r gymuned - gan gyflwyno 12 stori sy’n gysylltiedig â gorffennol, presennol a dyfodol y safle."
Dod yn rhan o waith celf
Mae Gardd Harrison wedi bod ar daith o gwmpas Prydain gan ymweld â rhai o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - Priordy Nostell, Castell Drogo a Phlas Gunby - gan gasglu mwy a mwy o glociau ar y daith. Cyn cyrraedd yng Nghastell Penrhyn yr haf yma, mae’r gymuned leol, yn cynnwys Bethesda, wedi cyfrannu eu clociau i’w hychwanegu at y gwaith celf. Bellach mae yna mwy na’r 5000 o glociau fydd yn cael eu harddangos am y tro gyntaf yng Nghymru fel rhan o’r gosodwaith anhygoel yma.
Ar ôl ei amser yma gyda ni, bydd yr gosodwaith yn symud ymlaen i un lleoliad arall cyn ei arwerthu i godi arian i greu cerflun newydd o John Harrison yn ei dref gartrefol Barton upon Humber.
Bydd cyfle i weld Gardd Harrison gan Luke Jerram a 12 Stori gan Manon Steffan Ros yng Nghastell Penrhyn fel rhan o ‘Amser yng Nghastell Penrhyn’ rhwng 16 Mehefin - 4 Tachwedd 2018, o 12pm tan 4pm pob dydd.
Gan fod mynediad i'n profiad 'Amser' yn cynnwys grisiau a grisiau troellog, rydym wedi creu ffilm fer o'r arddangosfeydd sydd ar gael tu mewn i'r Castell. Gofynnwch yn y Neuadd Fawr am fwy o wybodaeth.