Caiff y plant eu croesawu i’r Neuadd Fawr gan arddwr neu forwyn yn eu dillad gwaith; maent wedi’u gwahodd i helpu i greu addurniadau a chrefftau traddodiadol y Nadolig. Byddant yn cael profiad ymarferol ac yn gadael â llond bag o grefftau y byddant wedi’u gwneud yn ystod yr ymweliad.
Themâu ydi cyfoethog a thlawd, dosbarth a chymdeithas, bywyd Oes Fictoria a bywyd heddiw, traddodiadau Fictoraidd, y defnydd traddodiadol o goed bytholwyrdd, yr amgylchedd a hanes lleol.
Beth fydd yn digwydd?
Caiff y criw eu rhannu’n dri grŵp llai a byddant i gyd yn cymryd rhan mewn tri gweithgaredd yn eu tro.
- Byddant yn gwneud addurn Nadolig traddodiadol o ddail coed bytholwyrdd; roedd pobl gyfoethog a phobl dlawd yn defnyddio dail coed bytholwyrdd i addurno’u cartrefi am eu bod ar gael yn hwylus. Yn draddodiadol, roedd coed bytholwyrdd yn symbol o allu byd natur i oroesi trwy’r gaeafau garw.
- Yn Oes Fictoria y dechreuodd yr arferiad o anfon cardiau Nadolig. Byddant yn dysgu am ddechreuadau’r traddodiad o anfon cardiau Nadolig ac yn gwneud eu cerdyn Nadolig eu hunain.
- Creu craceri traddodiadol; Gweld sut a gychwynnodd y traddodiad o defnyddio craceri yn ystod y Nadolig. Beth oedd tu fewn, a thybed a fydden nhw’n clecian?
Bydd y plant yn cael mynd adref â’r crefftau y maent yn eu gwneud; bydd y cyfan yn cael ei roi mewn bag papur yn anrheg iddynt. Ar y diwedd, bydd pawb yn dod at ei gilydd yn y Neuadd Fawr i ganu cân i ddathlu’r Nadolig.
(Y gân a genir fel arfer fydd ‘Pwy sy’n dwad dros y bryn?’ ond gellir canu rhywbeth arall os dymunwch.)
Profiad diwrnod cyfan
Mae croeso mawr i ysgolion dreulio’r diwrnod cyfan yng Nghastell Penrhyn; bydd tir y castell yn agored i’r ysgolion ddilyn gweithgareddau ar eu pen eu hunain a bydd helfa natur ar gael. Mae’n bosib y gallwn gynnig lle i fwyta pecynnau bwyd os bydd lle ar gael.
I gael gwybod rhagor ac i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r -
Tîm Profiad Ymwelwyr
Castell Penrhyn
Bangor
LL57 4HN
01248 353 084
penrhyncastle@nationaltrust.org.uk