Mae’r tîm yma yn Penrhyn wrth eu boddau’n rhannu’r manylion a’r straeon y tu ôl i’r eitemau sy’n cael eu dangos – a’r rhai sydd ddim i’w gweld fel arfer!
Mae’r teithiau’n cael eu cynnal o 10.30 bob dydd drwy gydol y prif dymor o 1 Mawrth – 5 Tachwedd.
Cyntaf i’r felin ydy hi i gael lle ar y teithiau – mae’r manylion ar gael yn y Ganolfan Groesawu Ymwelwyr wrth i chi gyrraedd.