Mae Plas Newydd wedi bod yn gartref teuluol ers cenedlaethau, a hefyd yn gartref i gannoedd o fechgyn ifanc oedd yn cael eu dysgu a’u paratoi at fywyd ar y môr.
Roedd y dysgu yn digwydd ar fwrdd y llong. Roedd cymaint o alw am le yn yr ysgol hon nes bod rhaid chwilio am ganolfan ar y lan i o leiaf 100 o gadetiaid.
Roedd y Conway wedi ei hangori yn nociau Lerpwl i ddechrau ac fe symudodd i Fangor i’w chadw’n ddiogel yn ystod y Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y 1940au roedden nhw’n chwilio am le i’w chadw wrth y lan yn ardal Bangor.
Roedd Plas Newydd yn ateb y galw’n berffaith. Symudodd y Conway a’i chadetiaid yno yn 1949 a chymryd dros hanner yr ystafelloedd.
Bywyd fel un o fechgyn y Conway
Roedd bywyd ar fwrdd y llong neu ar y lan fel un o fechgyn y Conway yn anodd ond yn gofiadwy. Pythefnos oedd gan y bechgyn 13 oed i ddod i ddeall beth i’w wneud, lle roedden nhw i fod a beth oedd ystyr ymadroddion fel 'cooks to the galley', 'heave round' a 'lash up and stow your hammocks'.
Paratoi at fywyd ar y môr
Roedd hogiau’r Conway yn cael eu hyfforddi i fod yn barod i fyw ar y môr. Roedd y gwersi’n cynnwys morwriaeth yn ogystal â phynciau mwy traddodiadol. Roedd y drefn arferol yn golygu codi am 6:30am a gwneud ymarfer corff cyn cael brecwast am 7:30am, sef tair sleisen o 'sodduck' gyda 'saim' a chwpanaid o 'skilly' i olchi’r cyfan i lawr.
Roedd gan y bechgyn eu geiriau eu hunain am lawer o bethau yn yr ysgol. Fedrwch chi ddyfalu beth oedden nhw’n ei fwyta i frecwast mewn gwirionedd?
Chwaraeon
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod chwaraeon ac yn uchafbwynt poblogaidd i’r wythnos. Fe fyddai ganddyn nhw dimau rygbi, criced a hoci yn cystadlu yn erbyn timau lleol ac ysgolion eraill tebyg iddyn nhw.
Byddai cadetiaid y Conway yn cael heriau corfforol eraill fel cerdded mynydd. Byddai grŵp ohonyn nhw’n cael eu cludo i bellafoedd Eryri ac yn gorfod dod o hyd i’w ffordd gartref, gan gwblhau tasgau eraill ar y ffordd, i gyd wedi eu gosod o fewn terfynau amser ac yn erbyn y cloc.
Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd nofio ar draws y Fenai. Byddai disgwyl i bob cadét nofio o un ochr o’r afon i’r llall, dim ots pa mor oer oedd y dŵr na faint o sglefrod môr oedd yn nofio o’u cwmpas.
Atgofion melys?
Mae nifer o’r 14,000 o gyn gadetiaid Conway yn dod nôl i ymweld â Phlas Newydd a rhannu eu hatgofion am eu hamser ar y llong:
- 'Dechrau fy mywyd ac ro’n i wrth fy modd'
- 'Rwy’n eu cofio fel dwy flynedd hapus yn gwneud ffrindiau oes'
- 'Hyfforddiant gwych i hogyn lleol cyn treulio 38 mlynedd ar y môr'
Am ragor o wybodaeth am HMS Conway ewch i wefan Cyfeillion HMS Conway.