Hydref – Calan Gaeaf neu Samhain?

Pwmpenni bwganllyd y tu allan i ddrws yng nghowrt Castell y Waun

A ninnau’n gyfarwydd iawn â ‘tric neu trît’ a’r pwcedi o felysion, beth am gymryd cipolwg ar rai o hen draddodiadau gwledydd Prydain sydd wedi diflannu i bob pwrpas …

Cyfeiriodd yr Celtiaid at Galan Gaeaf fel ‘Samhain’; yn ystod y cyfnod hwn byddent yn arwain yr anifeiliaid i lawr o’r tiroedd pori uchel lle roeddynt wedi treulio’r haf i gysgodi dros y gaeaf. Roedd y noson cyn Samhain yn adeg pan fyddai’r bwlch rhwng y byw a’r meirw yn cau a byddai ysbrydion yn mentro i gynhesrwydd cartrefi ac aelwydydd y bobl. Ar noswyl Calan Gaeaf, byddai’r bobl yn cynnau coelcerthi er cof am eu hanwyliaid, ac yn gadael bwyd a diod ar fyrddau dros nos i’r ysbrydion eu mwynhau.

Ac yntau’n benderfynol o ddileu credoau Paganaidd, aeth y Pab Gregory III ati i uno Gŵyl Gristnogol yr Hollsaint â gŵyl y Celtiaid, a symudwyd Gŵyl yr Hollsaint i’r 1af o Dachwedd, a elwid yn Gŵyl yr Holl Eneidiau (All Hallows). Gan fod ‘Samhain’ ar y noson cyn Gŵyl yr Holl Eneidiau, yn y pen draw fe’i gelwid yn ‘All Hallows Eve’ neu ‘Hallowe’en’.

Mewn rhannau o ogledd Lloegr, gelwid yr ŵyl yn ‘Noson Ddrygioni’ neu ‘Mischief Night’ – byddai pobl hyd yn oed yn tynnu drysau eu cymdogion yn ystod y nos ac yn eu cuddio! Yn Norfolk, credid bod ellyllon y nos yn marchogaeth cathod y pentref ar y noson hon – mae’n debyg fod y cathod yn mwynhau’r profiad, ond nid oedd y pentrefwyr o’i blaid a byddent yn cadw eu hanifeiliaid anwes dan glo. Cariwyd ‘punkies’, sef darnau mawr o fetys wedi’u cerfio â chanhwyllau ynddynt, drwy’r strydoedd wrth i bobl ganu ‘Cân Noson y Punkie’ cyn cnocio ar ddrysau a gofyn am arian.

Ychwanegodd yr Eglwys ail ddiwrnod i’r ŵyl, sef Gŵyl yr Hollsaint, a’i chysegru i’r holl eneidiau a oedd ym mhurdan o hyd: credid y gellid lleihau’r amser y byddai’n rhaid iddynt dreulio yno drwy gynnau canhwyllau a gweddïo, ac roedd teisennau fflat crwn a wnaed o flawd ceirch, ‘Soul Cakes’,  yn gyffredin ar yr adeg hwn o’r flwyddyn. Yn yr Alban, gelwid y teisennau hyn yn ‘Dirge Loaves’.

Parhaodd y traddodiad o ddathlu Gŵyl Geltaidd Samhain yn Iwerddon ychydig yn hwy nag yn Lloegr; ac yma hefyd, cerfiwyd gwreiddlysiau, a rhoddwyd canhwyllau ynddynt i gynrychioli wynebau.

Yng Nghymru, nid yw’n ymddangos fod y traddodiad mor wyllt – na mor hwyliog! Yn ogystal â cherfio lanterni llysiau, fel trigolion eraill Ynysoedd Prydain, byddai’r Cymry yn cynnau coelcerthi Calan Gaeaf, ond roedd y dathliadau yn llawer mwy syber: ysgrifennai pob aelod o’r teulu ei enw ar garreg wen a’i thaflu i’r tân, cyn cerdded o amgylch y fflamau, yn gweddïo am lwc dda. Bore trannoeth, byddent yn crybinio’r lludw i chwilio am eu cerrig. Petai carreg ar goll, credid y byddai’r ysbrydion yn galw ar enaid yr unigolyn hwnnw yn ystod y flwyddyn ganlynol.

Y dyddiau hyn rydym yn llawer mwy tebygol o gerfio pwmpenni (llysieuyn o Ogledd America yn wreiddiol), yn hytrach na meipen neu fetys (sy’n llawer mwy gwydn!). Os hoffech roi cynnig ar Gerfio Pwmpen yna dewch draw i Gastell y Waun hyd ddydd Sul, 30 Hydref. Cost y pwmpenni yw £3 yr un, ac maent wedi’u paratoi ar eich cyfer. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.nationaltrust.org.uk/chirk-castle/whats-on