Rhwng 8 a 23 Rhagfyr dewch i weld ein Nadolig y dychymyg. Dychmygwch gael tyfu yn eich castell rhyfeddol eich hun... i chwe phlentyn yr Arglwydd a’r Arglwyddes Howard de Walden yng Nghastell y Waun yn yr 1920au, dyna yn union ddigwyddodd.
Tyfodd John, Bronwen, Elisabeth, Priscilla, Margaret a’u chwaer fach Rosemary ym myd eu dychymyg, yn cyflwyno pantomeimiau Nadolig, ac yn gwisgo gwisgoedd gwahanol mewn castell yn llawn dreigiau a marchogion, tywysogion a storïau dychmygol.
Rhwng 1923 ac 1931 ysgrifennodd yr Arglwydd Howard de Walden chwe phantomeim, yn seiliedig ar storïau poblogaidd, i’w blant a’u ffrindiau eu perfformio yng Nghastell y Waun. Wedi eu hysbrydoli gan y pantomeimiau yma, a’r ffotograffau sydd gennym ohonynt yn cael eu perfformio, mae gwirfoddolwyr a staff wedi treulio cannoedd o oriau yn gwneud addurniadau, dilladau a phropiau i greu Nadolig hwyliog i’r teulu.
Eleni yng Nghastell y Waun dewch i weld yr addurniadau hardd yn yr Ystafelloedd Swyddogol ar thema pantomeimiau Nadolig y teulu De Walden. Archwiliwch ein llwybr chwedlau rhamantus ar y stad a’r gerddi, a gweld faint o chwedlau allwch chi eu henwi. Gwyliwch ffilm y teulu, gwisgwch y gwisgoedd ac ail greu golygfa o albwm y teulu De Walden yn y Capel.