
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Castell canoloesol odidog Y Mers
Castell Y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF

| Asset | Opening time |
|---|---|
| Castell | Ar gau |
| Gardd | Ar gau |
| Tŵr | Ar gau |
| Siop | Ar gau |
| Caffi | Ar gau |
Mae'n ddrwg gennym ond ond rydym ar gau (5 Ionawr) oherwydd tywydd garw. Byddwn yn ailagor cyn gynted a phosib.
| Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
|---|---|---|
| Oedolyn (18+) | £12.10 | £11.00 |
| Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £6.10 | £5.50 |
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £30.30 | £27.50 |
| Teulu (Un oedolyn) | £18.20 | £16.50 |
| Grŵp (Oedolyn 18+) | £10.45 | |
| Grŵp (Plentyn 5-17) | £5.23 |
Caffi wedi’i leoli yn iard y castell.
Mae croeso i gŵn ar yr ystâd, ac os ydynt ar dennyn byr, cânt fynd i’r gerddi ffurfiol a Choedwig y Parc Difyrrwch, ond ni chânt fynd i ardd y gegin na’r ardal chwarae. Cŵn cymorth yn unig yn ystafelloedd y castell.
Siop yn Home Farm wrth y swyddfa docynnau.
Planhigion ar gael o’r brif siop.
Siop llyfrau ail law yn Home Farm wrth y maes parcio.
Teithiau tywys boreol pan mae gwirfoddolwyr ar gael.
Toiledau, gan gynnwys toiledau hygyrch, yn Home Farm ac yn iard y castell.
Yn anffodus, nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na mynediad heb risiau i du mewn y castell. Rydym ni’n croesawu pob ci cymorth cofrestredig. Mae'r bws gwennol yn helpu ymwelwyr i fyny i'r castell ac yn rhedeg trwy gydol y dydd. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac efallai na fydd ar gael bob dydd, gwiriwch cyn ymweld.
Mae canllaw Braille i'r eiddo ar gael o fynedfa’r castell, gofynnwch os hoffech chi neu un o’ch grŵp ei ddefnyddio.
Mae gennym un Tramper trydan sy’n gallu crwydro’r gerddi a'r ystâd. I gadw hwn, cysylltwch â ni.
Dolenni sain yn y swyddfa docynnau, siop a’r caffi, ac ar gyfer teithiau tywys.
Llwybr hygyrch yn yr ardd.
Taith rithiol ar iPad ar gael wrth y fynedfa i’r ystafelloedd wedi’u dodrefnu.
Mae toiledau hygyrch ar gael yn Home Farm (RH- transfer) ac ar iard y castell LH-transfer).
Maes parcio - what3words: ///brechu.noswyl.brwdfrydedd
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Archwiliwch hanes canoloesol a mwy na hynny, gydag ymweliadau grŵp ac ymweliadau ysgol â Chastell y Waun yng Nghymru.

Un o gestyll y Gororau o’r 13eg ganrif, a ddaeth yn gartref i’r teulu Myddelton o 1595 am dros 400 mlynedd.
5.5 erw o erddi clodwiw, gan gynnwys lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio a golygfeydd godidog dros wastadeddau Swydd Gaerlleon a Swydd Amwythig.
480 erw o barcdir gweithiol a chynefin natur pwysig, gyda choed hynafol, dolydd blodau gwyllt a rhan o Glawdd Offa.
Fferm fodel o’r 18fed ganrif, gyda stabl a sgubor dyrnu sydd bellach yn gartref i Dderbynfa’r Ymwelwyr, siop a chyfleusterau i ymwelwyr.
Wedi’i leoli yng ngheginau hanesyddol y castell, mae’r caffi’n cynnig diodydd poeth ac oer, byrbrydau a phrydau ysgafn.
Wedi ei leoli ar y fferm, mae’r llaethdy yn cynnig byrbrydau a diodydd, ar ddiwrnodau prysurach. Pan mae’r tywydd yn garedig, mae ardal fach ar gael i eistedd.
Wedi’i lleoli yn Fferm y Plas, mae’r siop yn gwerthu rhoddion, planhigion a bwyd. Mae yna hefyd siop lyfrau ail-law.
Mae yna ardal chwarae fechan gydag offer chwarae pren ac ardal Chwarae Gwyllt o ddeunyddiau chwarae naturiol.
Mae digonedd o hwyl i’w gael yng Nghastell y Waun, lle gall eich rhai bach redeg, chwarae a dysgu drwy gydol y flwyddyn.

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Y Nadolig hwn, beth am greu atgofion hudolus wrth i chi grwydro Castell y Waun. Cewch ganfod theatrau pypedau cysgod chwareus ac ystafelloedd hardd, gydag addurniadau wedi’u hysbrydoli gan hanes cyfoethog y castell - o’i darddiad fel caer ganoloesol o’r 13eg ganrif i’w drawsnewidiad i gartref teuluol mawreddog ar gyfer y teulu Myddelton.

Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi o gwmpas gardd hyfryd 5.5 erw Castell y Waun ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn a choetsis.

Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.

Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.

Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.

Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.


At the top of Offa’s Dyke this 1930s villa is in a great spot for exploring nearby Chirk Castle.

Explore the grounds of a 700 year-old castle when you stay in this traditional Welsh cottage.

Close to Chirk Castle with walking trails all around, this pretty stone cottage has an enclosed garden.

This gorgeous half-timbered cottage in the stunning Powis Castle gardens has gorgeous Edwardian interiors.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae Castell y Waun yn symbol nodweddiadol o bŵer, a dechreuwyd ei adeiladu oddeutu 1295, yn ystod teyrnasiad y gorchfygol Edward I, er mwyn tawelu tywysogion olaf Cymru. Fe’i codwyd ar garreg frig uwchben y pwynt lle mae afon Dyfrdwy ac afon Ceiriog yn uno, ac roedd y castell a’i gysgodlun urddasol yn arwydd cythryblus o fwriad y Saeson yn y tiroedd dadleuol hyn. Prynwyd Castell y Waun ym 1595 gan Syr Thomas Myddelton, groser, masnachwr siwgr a herwlongwr, ac fe’i hetifeddwyd trwy linach teulu Myddelton. Gyda’i hanes yn olrhain yn ôl dros 700 o flynyddoedd, ac fel castell olaf o’i gyfnod lle ceir preswylwyr ynddo hyd heddiw, mae Castell y Waun yn nodedig am foethusrwydd y tu mewn i’r adeilad ynghyd â’r casgliad hardd ac eclectig sydd ynddo. Y tu mewn i’r Castell ceir Oriel Hir sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, arddangosfa fawreddog o dair Ystafell Wladol sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif gyda dodrefn moethus, paentiadau a thapestrïau, neuadd unigryw y gweision, ac ystafell Gerdd y Capel wedi’i dodrefnu er mwyn arddangos cysylltiadau bonheddig Castell y Waun yn y 1920au a’r 1930au. Mae’r gerddi arobryn yn gorchuddio 5.5 erw o lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio, borderi blodau, gerddi rhosod, prysglwyni a chreigerddi hardd, yn ogystal â’r maes pleser coediog – perffaith ar gyfer mynd am dro. Cofiwch ymweld â’r teras sy’n edrych dros y waliau ‘ha-ha’ yng ngwaelod yr ardd sy’n deillio o'r 18fed ganrif, gyda golygfeydd ysblennydd o wastatir Caer a Swydd Amwythig. Mae gan Gastell y Waun dros 480 acer o barcdir ystâd ar gael i chi ei archwilio, gyda gwartheg, defaid, coed hynafol, dolau blodau gwyllt a rhan hardd wedi’i gwarchod o Glawdd Offa. Mae’r ystâd wedi’i lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac wedi’i dynodi hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, fel cynefin pwysig ar gyfer infertebratau prin, ystlumod, ffyngau a blodau gwyllt.
Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.

Ymunwch â’n tîm gwych o wirfoddolwyr yng Nghastell y Waun yng Nghymru.

Mae Castell y Waun yn falch iawn o fod wedi derbyn grant gan Cadwyn Clwyd i greu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gyfrannu at ei dyluniad a'i chreu.
Mae portread gwir faint, hyd llawn prin o was wedi’i arddangos yng Nghastell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam yn dilyn gwaith cadwraeth ac ymchwil i ddatgelu cliwiau rhyfeddol am ei gefndir.

Mae 0.65 hectar o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghastell y Waun wedi ei wella ar gyfer pobl a byd natur wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gydweithio ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol i greu Dôl Ofalgar newydd, lle gall pobl gysylltu â byd natur, gan wella eu hiechyd a llesiant.

Bydd portread trawiadol o’r Fonesig Margaret Myddelton a phortread o Robert Myddelton-Biddulph, a gadwyd yng Nghastell y Waun yn y gorffennol, yn cael eu harddangos am y tro cyntaf. Rhoddwyd y portreadau hyn yn anrheg gan y ddiweddar Fonesig Aird, merch y Fonesig Margaret Myddelton.

Rydym wedi prynu casgliadau sy'n eiddo i'r teulu Myddelton ac sy’n cwmpasu dros bedwar can mlynedd o'u hamser yng Nghastell y Waun. Mae tua thri chant o eitemau o bwys hanesyddol wedi cael eu trosglwyddo i'n gofal ni, ble byddant yn cael eu cadw am byth i bawb eu mwynhau.

Tair cenhedlaeth o’r teulu Williams yn dod ynghyd i blannu coeden ifanc prin yng Nghastell y Waun, coeden ifanc wedi’i thrawsblannu o’r Dderwen wreiddiol Pontfadog a safodd yn ystod gorchfygiad Owain Gwynedd o’r Saeson, ac ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel ‘y goeden letaf ym Mhrydain’.


Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.