Mehefin – tyfu i fyny yn yr oesoedd canol

Plant yn mwynhau gorymdaith y ddraig yng Nghastell y Waun
Cyhoeddwyd : 30 May 2017 Diweddariad diwethaf : 19 Jul 2017

Mae Castell y Waun yn paratoi ar gyfer ein digwyddiad ‘Marchogion a Thywysogesau’ blynyddol, ond wrth i gannoedd o dywysogion a thywysogesau ifanc orymdeithio’n osgeiddig o amgylch y cowrt, efallai byddai’n ddiddorol i ystyried sut oedd bywyd i blant yr yr ‘Oesodd Canol’ go iawn.

Gan ddechrau ar nodyn negyddol, roedd cyfradd farwolaethau plant yn uchel – efallai byddai cynifer â 49% yn marw cyn eu bod yn naw oed, a byddai 25% o’r rhain yn marw cyn eu bod yn flwydd oed! Doedd y gyfradd farwolaethau uchel hon ddim yn adlewyrchiad o ddiffyg gofal a chariad gan rieni – yn hytrach, roedd yn ymwneud â diffyg glanweithdra a diffyg addysg am ofal plant.

Roedd bywyd yn gyfres o gyfnodau anorfod – roedd y cyfnod rhwng cael eich geni a 7 oed yn adeg o dyfiant, roedd y cyfnod rhwng 7 ac 14 oed yn amser i chwarae ac ar ôl 14 oed, roedd yn gyfnod o ddatblygiad corfforol, deallusol a rhywiol.

Byddai plant o deuluoedd mwy cyfoethog yn cael eu geni mewn ystafell breifat lle byddai nifer o fenywod yn gofalu am y fam. Roedd y trefniadau ar gyfer plentyn o blith dosbarth y taeogion yn llawer llai cyfforddus, ond byddai’n rhaid i blant o bob dosbarth aros i gael eu bedyddio ar adeg y Pasg neu’r Sulgwyn, pan fyddai’r baban yn cael ei enwi yn aml ar ôl y prif riant bedydd.

Er nad yw plant yn amlwg iawn ym mhaentiadau a lluniau’r cyfnod, credir nad oedd plant ifanc iawn yn cael eu hystyried yn ‘ddefnyddiol’ nes eu bod yn ddigon hen i gynnig help llaw yn y cartref, neu i hyfforddi ar gyfer swyddogaeth mewn bywyd.

Byddai plant y teuluoedd breintiedig yn dechrau derbyn addysg ffurfiol pan fyddent tua 7 oed, yn aml o dan oruchwyliaeth offeriad, a byddent yn dechrau drwy astudio’r wyddor: ar yr un oed, byddai plant y taeogion yn dechrau ysgwyddo cyfrifoldebau go iawn o amgylch y cartref – glanhau, gofalu am y coginio, edrych ar ôl yr anifeiliaid, ac ati.

Yn y ddeuddegfed ganrif, dechreuodd yr Eglwys lunio deddfau oedd yn gwneud darpariaethau ar gyfer plant, ac felly arweiniodd hyn at ‘oed cyfrifoldeb’: y ffin rhwng plentyndod a bod yn oedolyn, sef 12 oed i ferched ac 14 i fechgyn. Roedd plant iau na hyn yn cael eu hystyried yn rhy anaeddfed i bechu!

Pan fyddent yn 12 oed, byddai bechgyn y dosbarthiadau uchaf yn dechrau derbyn hyfforddiant (yn aml fel gwas mewn teulu uwch) yn y sgiliau sifalri a fyddai’n ddefnyddiol iddynt yn ddiweddarach – arferion aristocrataidd, cleddyfyddiaeth; ond byddai bechgyn o deuluoedd y taeogion, os oeddynt yn byw yn y dref, efallai yn cael eu hanfon i wasanaethu, neu’n dechrau prentisiaeth. Doedd prentisiaethau ddim fel arfer ar gael i’r tlodion, a byddai’n rhaid iddyn nhw dreulio gweddill eu bywydau yn gweithio gydag anifeiliaid, neu’n gofalu am y caeau.

Byddai merch 12 oed, os oedd yn etifeddes, yn gorfod priodi fel rhan o drefniant gwleidyddol, a byddai merch daeog o’r un oed yn aros adref i wneud gwaith domestig a fyddai’n rhan o’i bywyd ar hyd ei hoes. Ac eithrio etifeddesau, byddai merched cyfoethog a thlawd ddim fel arfer yn priodi nes eu bod yng nghanol eu hugeiniau.

Roedd plant yn wahanol iawn wrth gwrs, felly gallwn fod yn sicr bod plentyndod yn yr oesoedd canol yn gyfoethog ac amrywiol iawn: yn gyffredinol, roedd yn wahanol i gymdeithas fodern heddiw oherwydd y gyfradd farwolaethau uchel a’r ffaith bod pobl ifanc yn dechrau gweithio ‘go iawn’ yn llawer cynt, ond mae bywyd y cartref, chwarae, a hyfforddi ar gyfer gwaith oll yn gyfnodau y mae plant heddiw hefyd yn eu brofi.

Mae ein penwythnos Marchogion a Thywysogesau ar 3 a 4 Mehefin yn cymryd golwg ysgafnach ar fywyd Marchogion a Thywysogesau ifanc, a bydd sesiynau adrodd straeon, gorymdeithiau dreigiau, gemau a gweithgareddau. A chofiwch, mae mynediad am ddim i blant sydd wedi gwisgo i fyny.