Gallwn ddiolch i William hefyd am feithrin a phoblogeiddio dwy goeden gonwydd eiconig, y goeden gas gan fwnci a chochwydden Califfornia- mae’r ddwy goeden i’w cael yma yn Penrhyn.
Fe gasglodd 3000 o hadau’r goeden gas gan fwnci drwy saethu conau o’i changhennau ac yna’u casglu o’r llawr. Roedd hon y ffordd gynhyrchiol, er ychydig yn beryglus, i gyflawni ei nod, ac fe roddodd iddo fwy na digon o hadau i sicrhau fod y goeden yn dod yn symbol ffasiynol o statws ymysg boneddigion cefnog y cyfnod Fictoraidd.
Roedd John Gould Veitch yn gasglwr planhigion arall uchel ei barch yn y cyfnod hwn ac yn un o’r rhai cyntaf i ymweld â Siapan. Mae ei gyfenw yn cael ei gofio heddiw mewn cannoedd o enwau planhigion, gan gynnwys y Sasa veitchii, math ymledol o fambŵ sydd i’w weld yn tyfu wrth yr Ardd Gorsiog.
Wrth gerdded i mewn i’r ardd furiog drwy’r giât addurnedig, gallwch weld coeden balmwydd dal yn tyfu o’ch blaen. Cafodd ei enw gan ymsefydlwyr cynnar i Seland Newydd. Casglodd Syr Joseph Banks enghraifft yn 1769 pan oedd yn naturiaethwr ar fwrdd yr Endeavour ar daith gyntaf Capten James Cook i’r Môr Tawel. Gall y goeden fresych dyfu i 20 metr o daldra ac roedd yn ffynhonnell bwyd i’r bobl Maori cynhenid. Câi ei ffibrau eu defnyddio i wneud defnydd, rhaffau, lein bysgota a hyd yn oed dillad oedd yn dal dŵr – darganfyddiad defnyddiol i bobl y cyfnod. Heddiw mae’r goeden fresych yn cael ei hadnabod hefyd yn y DU fel palmwydden Torbay.
Aeth Banks ei hun ymlaen i fod yn Llywydd y Gymdeithas Frenhinol am 41 mlynedd ac fel cynghorydd i’r Brenin ar ddatblygu’r Gerddi Botaneg, anfonodd fotanegwyr dros y byd i sicrhau fod Kew yn dod yn un o erddi botanegol gorau’r byd yn ei gyfnod.