Mae John Ogwen yn ŵr lleol ac actor adnabyddus ac roedd ei deulu yn gweithio yn y chwarel yn ystod y streic; roedd wedi dweud yn gyhoeddus na fyddai byth yn ymweld â’r castell ond mae bellach wedi newid ei feddwl.
Dywedodd: “Roedd yn arfer bod yn anodd i mi ymweld â’r castell oherwydd ei hanes, ond cefais fy ngwahodd yno i lansiad llyfr gan Dr Dafydd Gwynn a’r cais am statws Treftadaeth y Byd UNESCO ar gyfer diwydiant llechi Gogledd Cymru a gwelais fod pethau’n newid.
“Dw i’n falch bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn siarad yn agored am rôl y castell yn hanes lleol a’r ffaith y gall ymwelwyr glywed o’r diwedd am Gload Allan y Penrhyn, neu’r Streic Fawr, fel y’i gelwir gan lawer. Mae’n amser i ni symud ymlaen. Mae’n hen hanes bellach, ond ni ddylid byth ei anghofio.”
Yn ogystal â’r cerflun, bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am y streic o’r ffeithiau hanesyddol a gyflwynir o amgylch y castell a fideo a grewyd gan yr artistiaid ynghyd â’r cerflun ei hun sy’n defnyddio lleisiau lleol, barddoniaeth, canu corawl a denuyddiau o’r archif i adrodd y stori.
Dywedodd un o’r artistiaid sydd yn rhan o Llechi a Llafur, Zoe Walker: “Mae’r hanes y tu ôl i’r streic a’i dylanwad, yn lleol a rhyngwladol, yn syfrdanol ac yn cyd-daro â materion ac ymgyrchoedd gwleidyddol cyfoes rhwng pŵer, cyfoeth a thlodi. Roeddem yn awyddus i ymchwilio i’r hanes a rhoi lle teilwng iddo ym Mhenrhyn, i adrodd y stori o fewn muriau’r castell ei hun a myfyrio ar y berthynas â’r gymuned leol.”
Bydd Llechi a Llafur yn Neuadd Fawr Castell Penrhyn rhwng 1 Gorffennaf a 5 Tachwedd 2017.