Mae Erddig yn cynnig digonedd o gyfleoedd i redeg, neidio, ffroeni a sblashio ym mhob rhan o’r parc gwledig.
Rydym yn cynnig y canlynol yn Erddig:
-
mynediad i’n gardd de i chi a’ch ci (ond nid i’r tŷ, y gerddi, y caffis na’r siopau).
-
dŵr ar gyfer powlenni yfed.
-
tri bin baw cŵn; un ychydig y tu allan i’r ardd de ar y llwybr sy’n arwain at y rhaeadr cwpan a’r soser; un ar ochr arall yr ystâd ger maes parcio Felin Puleston; un ger y fynedfa i’r ystâd ar Ffordd Erddig; ac mae un o finiau sbwriel cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym maes parcio Sonlli.
-
tenynnau a bagiau baw cŵn rhag ofn i chi anghofio eich rhai chi.
Cŵn cymorth
Mae croeso i gŵn sy’n cynorthwyo ymwelwyr gydag anableddau ddod i’n tŷ, ein gerddi, ein bwytai a’n siopau. I gael rhagor o fanylion am fynediad a chyfleusterau, ewch i’n tudalen cartref. Mae sawl aelod o’n tîm yn berchnogion cŵn a byddent wrth eu bodd yn cael cyfle i gwrdd â’ch cyfaill pedair-coes. Ymunwch â ni ar Daith Gerdded Pawennau i grwydro o amgylch yr ystâd gyda’n gilydd. Trowch at ein tudalen digwyddiadau i gael rhagor o fanylion.