Dewch i ddarganfod parcdir Emes yn Erddig

Dau gerddwr ger y Colomendy ar ystâd Erddig

Mae ymwelwyr wedi cael crwydro parcdir Erddig ers 300 mlynedd a mwy. Nid oedd y teulu Yorke yn dymuno cuddio eu hystâd hardd, ac roedden nhw’n deall pa mor werthfawr oedd natur i iechyd a lles y gymuned leol.

Yn 1779, cododd Philip Yorke I yr arwydd canlynol wrth y fynedfa i Erddig:

" Mr Yorke having at great Expense, and at the labour of many Years, finished the Ground and Wood Walks about Erthig, desires to acquaint his Neighbours, that they are extremely welcome to walk in the same for their Health and Amusement."
- Philip Yorke I

William Emes

Ymdrechion Williams Emes yw’r gwaith drud a’r llafur sylweddol hwn yn bennaf. Roedd parch mawr i’w waith fel cynllunydd tirweddau a bu’n gweithio yn Erddig rhwng 1768 ac 1780. Cafodd ei gyflogi i greu tirwedd a fyddai’n ddeniadol yn weledol, a hefyd i gynyddu gwerth amaethyddol y tir trwy leihau llifogydd difrifol Afon Clywedog.

Rhaeadr cwpan a soser

Creodd Emes lwybrau graean trwy’r tiroedd hamdden helaeth, plannodd lawer o goed sy’n dal i ffynnu hyd heddiw, a chafodd llif y dŵr ei gyfeirio ar draws y parc trwy gyfres o raeadrau a choredau.
 
Yr addasiad mwyaf unigryw a wnaeth i dirwedd Erddig oedd creu rhaeadr cwpan a soser. Gellir gweld y nodwedd hon hyd heddiw, ac mae’n gweithio trwy gasglu dŵr mewn basn carreg crwn sydd â rhaeadr silindraidd yn ei ganol;  mae’r dŵr yn disgyn trwy’r rhaeadr hwn ac yn ymddangos o dwnnel rai llathenni i lawr yr afon.  
 
" The gem of Erddig is its wood."
- Charles Apperley (Nimrod)

 

Rhodfa goed

Fe wnaeth Emes ymgorffori rhai o nodweddion mwyaf hynafol Erddig yn ei waith - fel y  castell Tomen a Beili a Chlawdd Wat sy’n glawdd pridd 40 milltir o hyd a godwyd yn yr wythfed ganrif.
 
Adeiladwyd y Castell Tomen a Beili gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif i gryfhau eu rheolaeth dros yr ardal leol. Unig weddillion y castell yw’r twmpathau pridd uchel, wedi’u gorchuddio â choed, ond ar un adeg byddai wedi bod yn dipyn o adeilad. Wrth adeiladu’r castell, defnyddiodd y Normaniaid dopograffi naturiol y tir a therfyn amddiffynnol Clawdd Wat a oedd eisoes yn bodoli.
 
700 mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth Emes ymgorffori’r cloddiau pridd hyn yn ei gynlluniau, a phlannodd rodfa goed ar y copa. Yr enw ar y rhodfa yw Rhodfa’r Gadeirlan (‘Cathedral Aisle’) ac mae’n arwain at olygfa odidog o’r wlad o amgylch.
 

Mae sawl haen o hanes yn nhirwedd Erddig, ac mae’n agored i gerddwyr ac ymwelwyr hyd heddiw, yn union fel yng nghyfnod Philip Yorke I.