O rwbel i ryfeddod
Cymerodd bedair blynedd i adfer y tŷ a’r gerddi ar ôl blynyddoedd o ddirywiad a gweithiodd dros gant o arbenigwyr i weddnewid y plasty a oedd bron â suddo.
Rhwng mis Mehefin eleni a mis Mawrth 2018, gallwch ddilyn ôl troed Philip Yorke III gan olrhain hanes yr ystad wrth iddi gael ei gweddnewid ‘o rwbel i ryfeddod’ ar ein taith amlgyfrwng drwy’r tŷ, y gerddi a’r tai allan.
Dysgwch am hanes yr ystad, ei chynllun, y gwaith o’i hadfer a’i gwarchod. Dewch i ddarganfod sut rydym yn rheoli ein tŷ a’n gardd ysblennydd heddiw, am byth, i bawb. Yna, yn eich amser eich hun, ewch eto i weld eich holl fannau, neu dewch o hyd i lecyn tawel i eistedd ac ymlacio.
Yr ardd heddiw
Ymunwch â’n garddwyr ar un o’r teithiau dyddiol o amgylch gerddi anhygoel Erddig. Mae’r gerddi wedi cael eu rhestru fel Gardd Hanesyddol Gradd 1. Crwydrwch o amgylch yr ardd furiog drawiadol, sydd wedi cael ei hadfer i’w threfn ffurfiol, fel ag y byddai wedi bod yn y ddeunawfed ganrif.
Dysgwch am ei hanes, ei chynllun, y gwaith o’i hadfer a’i gwarchod. Dewch i ddarganfod sut caiff yr ardd odidog hon ei rheoli heddiw fel y gall pawb ei mwynhau, am byth. Yna, yn eich amser eich hun, ewch eto i weld eich hoff rannau, neu eisteddwch am ychydig ac ymlacio yn y lle hardd hwn.
Mae gardd Erddig yn cynnwys coed ffrwythau prin a Chasgliad Cenedlaethol o eiddew, ac mae’n lle arbennig iawn.