Adlewyrchiadau o’r Eisteddfod

Eisteddfod

Rhoddodd y siwrne hir i'r Gogledd ddigon o amser i mi edrych yn ôl dros wythnos fythgofiadwy yn Eisteddfod Caerdydd. Gyda'm gwaith wedi ei orffen, roedd yn amser gwneud synnwyr o'r atgofion oedd dal i chwyrlio o gwmpas fy ymennydd blinedig. Erbyn i mi gyrraedd y giât sy'n arwain at adref, roeddynt mewn dau gasgliad gwahanol; un wedi'i labelu personol, y llall, proffesiynol.

Urddwisg Ffynci

Roeddwn i'n rhannu gyda llawer o’r teithwyr eraill oedd yn ‘teg edrych tuag adref’ ar y A470 neithiwr ymdeimlad o foddhad ar fod wedi fwynhau wledd o Gymreictod.  Dyma falchder sy'n cryfhau gyda phob sgwrs gyda hen gyfaill, gyda phob caniad o'r anthem, gyda phob darn o gerdd dant sy'n deillio o lwyfan y pafiliwn, a gyda mil o sgyrsiau wedi eu glywed o gwmpas y Maes sy’n lleisio amrywiaeth cyfoethog ein mamiaith.  

Mae dau atgof nodweddiadol Eisteddfodol yn dal i ddod â gwên: grŵp o bobl ifanc yn sefyll wrth eu telynau anferth, yn aros ar ymyl cylchfan prysur; a merch mewn gwisg draddodiadol mewn clocsiau yn llenwi Stryd Bute gyda sain ei dawnsio y tu allan i'r adeilad 'prelims', a hithau yn cael ei gwylio'n feirniadol gan ei hyfforddwr.

Ond roedd yna rywbeth gwahanol yn yr Eisteddfod eleni.  Mewn oes pan fo cenhedloedd yn troi eu cefnau ar ei gilydd ac yn dadwneud cynghreiriau buddiol, fe atgoffwyd ni yn yr Eisteddfod amlgenhedlig hon sut y gallai cymysg o ddiwylliannau ein cyfoethogi fel gymdeithas.  Roedd yn galondid nid yn unig i glywed cymaint o Gymraeg yn y ddinas ond hefyd cymaint o Saesneg a ieithoedd eraill ar y Maes.  Ac yna cafwyd cymysgfa galonogol o ddiwylliannau ethnig; y grŵp Mwslimaidd yn rhoi eu matiau gweddïo i lawr ac yn addoli ar y Maes, y tair merch ddu a glywais yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd, a phresenoldeb mynych fenywod Asiaidd Caerdydd yn eu saris lliwgar - rhywbeth a arweiniodd y seren ffilm Rhys Ifans, gyda'i dafod yn sownd yn ei foch, i ddweud mor ‘ffynci’ y mae gwisgoedd y beirdd yn edrych eleni.

Sgyrsiau gogleisiol

Ond yr wyf hefyd yn dod adref gyda stôr o atgofion am raglen dewr 'Sgyrsiau Sied ' yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  O dan y golau neon pinc gyda’r gair Ymddiried, rhoesom lwyfan i siaradwyr nad oedd ein cynulleidfaoedd yn eu disgwyl, yn ôl pob tebyg.  Roedd y rhain yn cynnwys ymgyrchwyr dros yr iaith (un ohonynt wedi'i garcharu ar un tro), artistiaid a cherddorion gwleidyddol, a phobl sydd yn feirniadol o’r Ymddiriedolaeth.  Efallai i’r sgyrsiau hyn ymddangos yn eclectig - gan ymdrin â phynciau mor amrywiol â diogelu enwau lleoedd, Syrffwyr yn Erbyn Carthion a therfysgoedd Beca - yr hyn a oedd yn rhyfeddol oedd pa mor berthnasol a chysylltiedig yr oeddynt.  Ac un llinyn amlwg oedd yn rhedeg trwyddynt oedd bod eiddo'r Ymddiriedolaeth yn aml yn meddu ar gyfoeth o hanes gwerin unigryw Gymreig, ond fod hyn yn groes (ac weithiau wedi ei guddio tu ôl) i fynegiant arferol o gyfoeth a grym ymerodrol.

Cyfeiriaf yn fyr at ddwy sgwrs, am resymau gwahanol.  Yr oedd y cyntaf yn ymgais gan Andrew Green i ddangos fod yr Ymddiriedolaeth yn fudiad Seisnigaidd yn ei agweddau.  Fel y soniais yn fy mlog, mae’r manteision o fod yn rhan o elusen fawr ryngwladol yn ddadl gref yn erbyn ei awgrym o greu Ymddiriedolaeth Genedlaethol annibynnol i Gymru.  Serch hynny, mae rhai o'i bwyntiau yn aros heb ei ddatrys: yr absenoldeb o gapeli Cymreig yn ei bortffolio o eiddo sydd ar agor i'r cyhoedd; y ffaith mai Tŷ Mawr, Wybrnant yw’r unig gartref i ffigwr cenedlaethol nodweddiadol Gymreig; y prinder eiddo sy'n adlewyrchu cymeriad diwydiannol cynifer o gymunedau yng Nghymru. Gwn fod yr Ymddiriedolaeth yn ymwybodol iawn o'r diffygion hyn, felly gadewch inni gymryd dadleuon Andrew fel sbardun.  

Yna, y sgwrs na roddwyd.  Diolch i gyrhaeddiad enillydd y Tour-de-France, Geraint Thomas, cafodd ein sied ei llethu gan filoedd lawer o’i gefnogwyr ar yr union foment fod un o'n sgyrsiau i fod i ddigwydd.  Roedd yr anthropolegydd o Seland newydd, Dr Bryonne Goodwin-Hawkins wedi paratoi sgwrs ar sut y mae’r ddelwedd Saesnig o'r delfryd rhamantaidd gwledig yn parhau i siapio ein cefn gwlad gyda syniadau trefol o frwydr wleidyddol, rhywbeth a oedd yn ddiamau yn ysgogi sefydlwyr yr Ymddiriedolaeth i raddau helaeth iawn.  Ond gyda Band Pres Llareggub yn taranu eu ffordd drwy Rhedeg i Baris, a'r bachgen buddugoliaethus o Gaerdydd ar fin camu i’r llwyfan, roedd rhaid i ni dorri'r newyddion i Bryonne mai dim dyma’r amser na’r lle i draddodi’r fath bregeth.

Felly, dyna ni.  Dwy ar bymtheg o anerchiadau dylanwadol, pum perfformiad cerddorol a barddol a sgyrsiau gwerthfawr dirifedi: gallwn ni gyd ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd yng Nghaerdydd.

Heno, byddaf yn edrych yn ôl yn hiraethus ar fy wythnos yng Nghaerdydd, ac wedyn codi gwydraid i Lanrwst 2019.