Daeareg creigiau Llyn

Mae daeareg Llŷn wedi effeithio’n fawr ar y dirwedd o’n cwmpas heddiw.

Mae ffawt sylweddol yn rhedeg drwy’r penrhyn ac mae’n barhad o’r llinell a ffurfiodd Afon Menai ac a rannodd Ynys Môn o dir mawr Gwynedd. Mae’n nodi’r ffin rhwng y creigiau hŷn a geir yn y gorllewin, a’r rhai sydd gryn dipyn yn iau yn y dwyrain.

Tirlun trawiadol

Bu gweithgaredd folcanig mawr yng Ngogledd Cymru dros 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dyma pryd y ffurfiwyd asgwrn cefn Llŷn sydd mor amlwg heddiw, wrth i greigiau igneaidd gael eu gwthio i fyny.

Wedyn, fe erydwyd y creigiau gorchudd mwy meddal gan rewlifoedd, gan adael y gadwyn o gopaon sy’n ymestyn o’r Eifl yn y gogledd ddwyrain, drwy Fynydd Nefyn a Charn Fadryn, i Fynydd Rhiw yn y gorllewin.

Ymhlith nodweddion daearegol mwyaf diddorol Llŷn y mae’r deic mawr dolerit ym Mhen-y-Cil, y ffosiliau niferus yn nhywodfaen Arenig Ordofigaidd Porth Ysgo, yr haenau plyg sy’n dangos pŵer anhygoel y gweithgaredd folcanig yn y clogwyni dan Fynydd Mawr, ger Ffynnon Fair.

Cloddio lleol

Mae olion chwareli i’w gweld ar yr holl gopaon lle mae dyn wedi elwa ar y gwenithfaen a ffurfiwyd gan y gweithgaredd folcanig yma.

Mae lliw nodweddiadol i bob gwenithfaen oherwydd y newidiadau bach yng nghyfansoddiad cemegol y graig. Archwiliwch y waliau a’r adeiladau am y newidiadau lleiaf yma o amgylch y penrhyn.

Un o fwynau pwysicaf Llŷn oedd y manganîs ac mae i’w weld yn y creigiau gabro yn Chwarel Nant, ger Porth Ysgo. Er mai yn Oes Fictoria y cyrhaeddodd y chwarel ei hanterth, fe’i hail-agorwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd pwysigrwydd cloddio mwynau ar gyfer y rhyfel. Chwarelwyd 150,000 tunnell o gerrig o’r dyffryn hwn.