Twyni tywod
Mae twyni tywod yn ffurfio rhai o’r tirffurfiau mwyaf gwych a deinamig ar y blaned. Yng Nghymru mae twyni yn ffurfio pan mae tyfiant megis y gwair moresg, yn dal gronynnau tywod sydd wedi eu chwythu o’r môr gan y gwynt.
Cynefin cyfnewidiol
Mae twyni yn gynefinoedd pwysig a diddorol dros ben, gan eu bod yn symud ac yn newid yn gyson, gan gynnig amrediad o amodau byw i blanhigion ac anifeiliaid.
Tywyn y Fach
Archwiliwch y twyni yma ac fe welwch eu bod yn gyforiog o rywogaethau amrywiol o blanhigion, megis fflamgoes, celyn y môr a berw’r môr.
Ewch ar hyd y llwybr drwy’r twyni ac fe ddowch allan ar draeth bendigedig gyda golygfeydd gwych o Ynysoedd Sant Tudwal.
Rhywogaethau prin
Mae Tywyn y Fach yn cynnig peth wmbredd o blanhigion sy’n blodeuo, yn arbennig pysen-y-ceirw sef y brif ffynhonnell paill ar gyfer y gwenyn saer maen.
Mae rhai o’r rhywogaethau sy’n byw yn y twyni hyn mor arbenigol fel y byddent o bosib yn difodi heb y cynefinoedd hynod hyn.