Dewch i ddarganfod cyfrinach Cynhanesyddol Rhiw

Tan-Y-Muriau, Rhiw, Penrhyn Llŷn

Ydych chi’n chwilio am antur archeolegol, yn llawn dirgelwch a darganfyddiadau? Teithiwch yn ôl drwy hanes i ddarganfod mwy am y cymunedau cynnar sydd wedi ffurfio Llyn.

Mae’r dirwedd yn dal sawl cliw sy’n rhoi syniad i ni am y ffordd yr oedd pobl yn byw ar y penrhyn filoedd o flynyddoedd yn ôl. Gallwch ymweld ag olion sy’n ffurfio rhai o safleoedd archeolegol mwyaf arwyddocaol y cyfnod.

Ffatri fwyelli

Darganfuwyd ffatri forthwylion Mynydd Rhiw yn ystod ymgyrch llosg eithin y 1950au. Mae’n debyg fod y safle’n dyddio o gyfnod rhwng y 5ed a’r 3ydd mileniwm CC ( y cyfnod Neolithig).

Mae’r safle’n cynnwys sawl pant dwfn lle mae cerrig wedi cael eu cloddio a’u siapio i greu arfau ac offer amrywiol fel bwyelli a chrafwyr. Roedd rhain yn cael eu masnachu dros gyfnod hir yn ystod yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd cynnar.

Mae’r lle arbennig hwn yn rhoi cipolwg ar fywyd ar lethrau Mynydd Rhiw ar ddiwedd Oes y Cerrig. Mae’r olion yn dangos sut yr oedd pobl Neolithig yn ceisio cloddio math o garreg arbennig allai gael ei defnyddio wedyn i wneud bwyelli carreg ac arfau eraill a oedd yn bwysig i’w ffordd nhw o fyw.

Prosiect Meillionydd

Mae gwaith cloddio ger Rhiw wedi darganfod lloc mewn siâp cylch dwbl ym Meillionydd. Lloc ar ben bryn yw hwn, ac ar benrhyn Llŷn y mae’r rhain i’w gweld gan amlaf. Mae’n cynnwys dau glawdd o bridd a charreg  ar ffurf cylch, a dyrnaid o dai crynion mewnol. Roedd y lleoedd caeëdig hyn, mwy na thebyg, yn gartrefi parhaol i nifer o deuluoedd. Roedden nhw hefyd yn safleoedd i bawb ymgynnull.

Mae’r llociau cylch dwbl yn cynnig adnodd unigryw ar gyfer astudio tarddiad anheddau'r Oes Efydd hwyr a’r Oes Haearn cynnar (c.1000 - 600BC) - adnodd sydd heb eto gael ei ddefnyddio i’w lawn botensial.

Mae gwaith cloddio gan dîm prosiect Prifysgol Bangor wedi dangos fod olion anheddu ym Meillionydd yn dyddio dros gyfnod hir. Mae’r ffaith bod pobl wedi byw mewn llecynnau caeëdig dros gyfnod hir ac wedi ailadeiladu’r tai crynion yn yr un safle yn awgrymu’r awydd i gynnal cysylltiad parhaol efo’r gorffennol- gan greu syniad arbennig o le ac o hanes ar y safle.

Mae nifer o arteffactau a chreiriau cerrig wedi eu darganfod ar y safle, yn cynnwys morthwyl carreg wedi ei lunio o garreg Mynydd Rhiw; gallai hwn fod wedi dod o ffatri fwyelli Neolithig.

Tai crynion

Mae safle Meillionydd ar dir ffermwr ac nid yw’n bosib cael mynediad iddo. Gallwch brofi ail-greu’r tai crynion ym Melin Uchaf, fodd bynnag, a chael syniad o sut y bydden nhw wedi edrych.