Gwylio adar yn Llyn

Ydych chi’n chwilio am antur? Ewch i gerdded yng nghefn gwlad Llŷn ac fe gewch wledd o brofiadau a golygfeydd arbennig o dirweddau a chynefinoedd hyfryd. Llŷn yw’r lle delfrydol i wylio adar.

Mae’r amgylchedd amrywiol, yr ecoleg gymhleth a’r tirffurfiau arbennig yn yr ardal hon yn cynnwys amrywiaeth dda o rywogaethau.

Fe wewlch chi adar sy’n gyffredin mewn sawl ardal debyg yn y Deyrnas Gyfunol ochr yn ochr ag adar mudol sydd, y tu allan i’r tymor magu, yn byw miloedd o filltiroedd i ffwrdd.

Cyfeillion pluog y clogwyni

Mae’r clogwyni creigiog a’r ynysoedd yn safleoedd nythu pwysig i lawer o adar. Mae adar fel y frân goesgoch, aderyn drycin y graig a’r pâl  - a hefyd ambell aderyn ysglyfaethus amlwg fel y bwncath, y gigfran a’r hebog tramor – yn feistri ar ddefnyddio’r cerhyntau awyr gwahanol sy’n codi ar hyd y clogwyni

Carreg y Llam

Gerllaw Pistyll mae silffoedd creigiog Carreg y Llam yn 100m o uchder ac yn llawn prysurdeb adar môr yn magu yn ystod y gwanwyn a’r haf cynnar. Hwn yw un o’r safleoedd nythu pwysicaf i adar y môr yng Ngogledd Cymru.

Mae nifer fawr o wylogod, llursod a gwylanod coesddu yn defnyddio’r llethrau serth, anghysbell hyn i ddodwy eu hwyau a magu cywion. Maen nhw’n treulio gweddill y flwyddyn allan ar y môr.

Porth Meudwy

Mae amrywiaeth ddiddorol o adar preswyl a mudol, ynghyd â phob math o fywyd gwyllt arall, yn defnyddio’r cwm cysgodol a’r traeth bychan ym Mhorth Meudwy. Weithiau bydd ‘na grwydriaid prin hefyd yn cael eu cofnodi yma, fel telor Ruppell a’r telor llygatgoch.

Ynys Enlli

Ynys oddi ar drwyn Pen Llŷn yw Enlli. Ymddiriedolaeth Ynys Enlli sy’n gofalu amdani ac mae yma arsyllfa adar hefyd.

Yr adar drycin Manaw, sy’n bridio yma yn yr haf, yw un o’r rhesymau pam fod y lle arbennig hwn yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig. Mae rhwng 10 a 16 mil pâr o adar drycin Manaw yn nythu ar yr ynys.

Mae 11 math gwahanol o aderyn môr yn magu yn y nythfa anferth ar ochr ddwyreiniol Mynydd Enlli. Yn eu plith mae gwylanod coesddu, pedrynnod drycin, llursod a gwylogod. Ymysg yr adar eraill sy’n nythu ar yr ynys mae pioden y môr, tinwen y garn, y dylluan fach a’r dylluan gorniog.

Ymgollwch yn y golygfeydd godidog

Mae’r rhostiroedd a’r twyni arfordirol o gwmpas arfordir Pen Llŷn yn gartref i adar fel clochdar y cerrig, y nico a gwenoliaid y glennydd. Efallai y cewch gip ar adar ysglyfaethus fel y cudyll coch a’r bwncath yn cadw llygad ar bopeth sy’n digwydd islaw.

Adar sy’n pasio drwodd

Mae bywyd gwyllt yn symud o gwmpas trwy’r amser. Bob blwyddyn mae miliynau o adar yn teithio cannoedd neu filoedd o filltiroedd i ddod i fridio yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Pen Llŷn yn cynnig llwybr pwysig i nifer o adar mudol. Ond mae creaduriaid eraill yn mudo hefyd – yn bysgod, ieir bach yr haf a morfilod.

Mae nifer fawr  o deloriaid yr helyg, siff-saff a drywod eurben yn cyrraedd yma yn y gwanwyn a’r hydref. Ymhlith yr adar mudol eraill sy’n dod yma’n rheolaidd mae’r gwybedog brith a’r gwybedog mannog, deg rhywogaeth o deloriaid, tair rhywogaeth o siglennod, chwe rhywogaeth o fronfreithod a 11 rhywogaeth o linosiaid.

Ymwelwyr prin

Mae’r rhestr o rywogaethau sydd wedi ymweld â Llyn yn drawiadol. Ymhlith rhai o’r adar mwyaf  cofiadwy mae’r fronfraith aeliog, telor Radde a thinwen Isabella o Asia, yr albatros aelddu o foroedd y de a’r jynco llygatddu, telor melyn, rhegen sora, aderyn-bwn America a’r golfan bersain o America. Ynys Enlli sydd â’r unig gofnod o euryn yr haf ar yr ochr hon i fôr yr Iwerydd.