Meithrinfa goed Hafod Garegog

Trees planted at 90 degrees to slope at Dyffryn Mymbyr, Gwynedd

Diolch yn rhannol i gyllid o’n prosiectau ynni adnewyddadwy lleol, rydym yn bwriadu sefydlu meithrinfa goed arbennig. Y nod yw cyflenwi coed cryfion i’n ceidwaid, yn barod ar gyfer ein prosiectau plannu coed di-ffens ledled Eryri.

Mae Hafod Garegog yn Warchodfa Natur Genedlaethol dawel sy’n cynnwys, yn bennaf, goetiroedd derw hynafol a mignenni corsiog a ffurfiwyd pan oedd y môr yn golchi dros y tir cyn codi’r cob.

Dyma gartref yr unig boblogaeth fewndirol o löyn byw o’r enw ‘y glesyn serennog’ a bwriedir sefydlu meithrinfa goed newydd yma, gyda’r gwaith o addasu tai allan cyfagos yn dechrau yn yr hydref eleni.

Coed cryfion i Eryri

Nod y feithrinfa fydd defnyddio hadau sydd wedi eu casglu’n lleol i dyfu cyfuniad o goed brodorol. Gall y coed ifanc dyfu ar y safle am rai blynyddoedd nes eu bod yn ddigon mawr a chryf i’w plannu ar lethrau mynyddoedd ledled Eryri.

Ni fydd y coed yn cael eu cadw y tu ôl i ffens ar y llethrau, felly rhaid sicrhau eu bod yn ddigon tal i osgoi ceg unrhyw ddafad neu afr lwglyd cyn eu symud.

Coed cryf = tirweddau cryfach

Yn y pen draw, bydd y coed yn cynnig lloches i’r da byw ac yn pontio rhwng yr ardaloedd coediog, fel y gall adar a chreaduriaid symud o le i le yn haws.

Drwy eu plannu ar geunentydd, bydd eu gwreiddiau dyfnion yn help i arafu llif dŵr ar adegau o law trwm ac yn help i ddal a storio mwy o garbon o’r atmosffer.

Byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau gwydnwch ein hecosystem yn wyneb newidiadau’r dyfodol.

Cyfleoedd cyffrous y dyfodol


Dywedodd David Smith, Prif Geidwad Eifionydd, “Mae’n gyffrous meddwl y gallwn ni dyfu coed o darddiad lleol. Unwaith y bydd y feithrinfa goed ar ei thraed, bydd cyfleoedd i bobl ddod yn rhan o’r prosiect ar bob cam o’r ffordd – o gasglu hadau lleol, eu hau a’u hegnio i’w plannu yn y pen draw.”