Yn rhoi Cymru ar y blaen ym maes ynni adnewyddadwy

Pen Y Gogarth, Llandudno, Conwy, Cymru

Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad ym maes ynni adnewyddadwy glân a gwyrdd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ystod y degawd diwethaf ac mae rhai o’n buddsoddiadau bellach nid yn unig yn talu am eu lle ond hefyd yn dod â buddion ehangach i gadwraeth, cymunedau a ffermio. Justin Albert, Cyfarwyddwr Cymru yn rhannu ei feddyliau ar ynni yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae cyfle unigryw i warchod a gwella rhai o adnoddau tir a chynefinoedd naturiol pwysicaf y genedl, yn ogystal â rhoi Cymru ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae gennym gyfle hanesyddol yng Nghymru i gydnabod yn llawn y posibiliadau a ddaw yn sgil buddsoddi mewn cynllun ynni adnewyddadwy cydgysylltiedig a fydd yn dod â thri budd hanfodol – ynni adnewyddadwy, defnydd cynaliadwy o’r tir a ffynonellau incwm newydd i ffermwyr a chymunedau gwledig.

Golau gwyrdd

Rwyf wedi bod yn y swydd hon am dros chwe blynedd bellach ac rwyf yn teimlo mai un o’n prif lwyddiannau yn ystod y cyfnod hwn yw bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi arwain y ffordd drwy’r sefydliad ar gadwraeth a chynhyrchu ynni. Rwyf yn teimlo’n angerddol am hyn oherwydd ei fod yn cyd-fynd â’r egwyddorion a nodwyd gan sylfaenwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel Octavia Hill a Fanny Talbot a roddodd y darn cyntaf o dir yn Ninas Oleu yn Abermaw – er lles y cyhoedd a budd i’r genedl.

Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad ym maes ynni adnewyddadwy glân a gwyrdd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ystod y degawd diwethaf ac mae rhai o’n buddsoddiadau bellach nid yn unig yn talu am eu lle ond hefyd yn dod â buddion ehangach i gadwraeth, cymunedau a ffermio.

Buddsoddiad strategol

Chwe blynedd yn ôl fe wnaethon ni benderfynu ganolbwyntio ein hadnoddau, egni, arian a chyfalaf i gefnogi technoleg adnewyddadwy mewn ffordd sy’n gwella yn hytrach nag andwyo ein lleoedd craidd o harddwch eithriadol, gan gynhyrchu ynni ar yr un pryd. Rydyn ni hefyd wedi gwneud hynny mewn ffordd gyhoeddus iawn.


Un enghraifft yw’r uned hydro ar lethrau’r Wyddfa, ger Llwybr Watkin lle mae 100,000 o bobl yn cerdded i ben y copa bob blwyddyn. Ond fyddech chi ddim yn gwybod bod yr uned hydro yno gan ei bod yn gweithio gyda’r tirwedd, sydd wedi ei chadw yn union yr un fath ag o’r blaen.

Walk the Watkin Path; one of six main routes to the summit of Snowdon
Walkers on the Watkin Path, Snowdonia


Ac fe wnaethon ni adeiladu pwmp ffynhonnell aer morol mwyaf Prydain o dan afon Menai, sy’n gwresogi plasty 300 oed ym Mhlas Newydd ar arfordir Gogledd Cymru. Trwy osod y pwmp hwn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi gallu rhoi’r gorau i gludo cannoedd o danceri o danwydd a ddefnyddiwyd i wresogi’r plasty yn y gorffennol.

Plas Newydd, Anglesey
Plas Newydd, Anglesey, with the Menai Strait and Snowdonia seen from beneath a large sycamore tree

Gall ymwelwyr sy’n cyrraedd meysydd parcio’r Ymddiriedolaeth yng Nghastell Penrhyn a Gardd Bodnant hefyd weld y paneli ffotofoltäig (PV) sy’n cynhyrchu ynni ar gyfer yr eiddo.

Mewn ffordd weledol iawn, gall pobl weld ei bod yn bosibl cynhyrchu ynni yn effeithlon mewn lleoedd sy’n hardd, heb effeithio ar y lleoedd, na harddwch y lleoedd rheini.

Mae lle i ynni hydro, pympiau ffynhonnell aer ac ynni solar a hyd yn oed ynni gwynt, yn y lle cywir. Fodd bynnag, i ni maen nhw oll yn rhan o’r darlun mawr sy’n ymwneud ag ymrwymo i ddefnyddio llai o danwydd ffosil a sylweddoli bod gan y lleoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw y gallu i wneud iawn am eu defnydd o’r ynni hwnnw.

Rydyn ni wedi rhannu’r wybodaeth hon gydag eraill. Er enghraifft, rydyn ni wedi dangos sut gallwn ddefnyddio ynni hydro i helpu cymunedau yn ardal Bethesda.

Newid yn yr hinsawdd a defnydd tir


Fel un o’r tirfeddianwyr mwyaf ym Mhrydain a Chymru, mae’n bwysig ein bod yn arwain ac ysbrydoli wrth gysylltu ynni adnewyddadwy â gwell rheolaeth o’r tir, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac atal dirywiad bioamrywiaeth.

Sheep on the Great Orme
Sheep on the Great Orme

Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a datblygu ynni cynaliadwy yn codi i frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru. Rydyn ni’n gwybod y gallwn ddefnyddio tir mewn ffordd sy’n sensitif i’r amgylchedd i gynhyrchu trydan a phŵer, ac y gellir gwneud hyn gan ofalu am y tir mewn ffordd fuddiol. Rydyn ni wedi dangos hyn drwy’r ffordd rydyn ni wedi datblygu ein ffermydd mewnol yn gynaliadwy, drwy ein dulliau ffermio sydd o fudd i natur.

Mae newid yn yr hinsawdd ar frig ein hagenda ac mae’r gwaith arloesol rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru yn cael effaith llawer fwy ar draws y byd. Trwy ddefnyddio a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a dulliau newydd o’i gynhyrchu, gallwn wneud hyn mewn ffordd foesegol, heb ddefnyddio cymaint o danwydd ffosil.

Yng Nghymru, gwlad o fynyddoedd ac ucheldiroedd yn bennaf, mae gennym rai o’r tiroedd fferm mwyaf ymylol ac sydd fwyaf o dan fygythiad nag unman arall yn y byd.

Wrth i ffermio newid yn ddramatig, yn y cyfnod ar ôl Brexit gallwn weithio i sicrhau y bydd unrhyw system gymhorthdal yn y dyfodol yn mynd tuag at ffermio cynaliadwy sy’n gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol. Trwy wneud hyn, bydd ein rhywogaethau brodorol yn dychwelyd ac yn ffynnu. Os na fyddwn yn gwneud hyn bydd mwy o rywogaethau yn dirywio. Ond, drwy wneud pethau yn iawn, gallwch droi Cymru yn enghraifft wych o ynni a ffermio yn y dyfodol.


Newid canfyddiadau

Un o’r newidiadau mwyaf rwyf wedi sylwi arno yn ystod fy nghyfnod wrth y llyw yw’r ffordd mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yng Nghymru yn newid y ffordd mae’r elusen yn cael ei ystyried yng Nghymru.
Mae hyn wedi newid yn fawr, ac rydym yn cael ein gweld llai erbyn hyn fel sefydliad Seisnig sy’n edrych ar ôl tai mawr ac yn fwy fel sefydliad sy’n ymfalchïo yn nhir a thirweddau Cymru ac sydd hefyd yn arwain y ffordd ym maes cynaliadwyedd.

Mae ein rhaglen ynni adnewyddadwy hefyd yn ein galluogi i dalu am y gwaith cadwraethol hollbwysig yn y lleoedd rydyn ni’n eu gwarchod ar gyfer y genedl. Mae rhedeg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn fusnes drud ac yn awr rydyn ni’n llwyddo i dalu ein costau, sydd yn beth gwych.
Rydyn ni’n gwneud hyn oll gan ein bod yn credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Dw i’n meddwl mai dyna fyddai Octavia Hill, a sefydlodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi ei wneud petai hi yma heddiw i ddylanwadu ar ein gwaith.
Fy nod yw parhau i wthio’r ddadl hollbwysig honno yn ei blaen, sef ystyried sut gallwn ni gyflawni ein swyddogaeth graidd i warchod lleoedd hardd am byth, i bawb, gan roi sylw ar yr un pryd i heriau mawr ein hoes, fel newid yn yr hinsawdd, rheoli tir a chadwraeth natur.

Rhagor am Justin

Mae Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, wedi cael gyrfa hir a nodedig ym maes darlledu a chynhyrchu ffilmiau dogfen yn America lle bu’n gweithio gyda Discovery Communications, Animal Planet ac fel Llywydd Mandalay Media Arts; mae wedi cynhyrchu a chomisiynu amrywiaeth eang o raglenni arobryn am hanes, diwylliant a byd natur.

Ers dychwelyd i’w gartref yng Nghymru mae wedi gweithio gyda Horse and Country TV, daeth yn sylfaenydd Ymddiriedolaeth Castell y Gelli Gandryll ac, mewn rôl ymgynghorol, mae wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o sianel deledu S4C.

Mae Justin wedi gweithio ar brosiectau cadwraethol a chelfyddydol ym Merthyr Tudful, ac mae’n ddisgynnydd uniongyrchol i’r Arglwyddes Charlotte Guest, cyfieithydd y Mabinogion.  Mae wedi bod yn is-lywydd Gŵyl Lenyddol y Gelli ers 2005 ac mae hefyd yn is-lywydd Gŵyl Jazz Aberhonddu. Mae Justin yn byw ac yn ffermio ym Mhowys gyda’i wraig, tri o blant a daeargi blêr.
Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ym mis Medi 2011.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma: http://en.wikipedia.org/wiki/Justin_Albert