
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Darganfyddwch arddangosfeydd cennin Pedr penigamp mewn gerddi ym mhob cwr o Gymru, o ddôl Gardd Bodnant yn y Gogledd i Erddi Dyffryn yn y De.

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Rhowch ddigon o adloniant i’ch anturiaethwyr bach drwy gydol y gwyliau gydag amrywiaeth o helfeydd wyau Pasg llawn antur sy’n dathlu natur, harddwch a hanes. Ble bynnag y byddwch yn ymweld ag ef, rydych yn sicr o fwynhau oriau o hwyl i’r teulu cyfan.

Lapiwch fel nionyn ac ewch allan i'r awyr iach i ganfod gerddi anhygoel wedi’u gweddnewid gan y gaeaf.
Mae casgliad adnabyddus yr ardd o rododendronau ar ei orau yn y gwanwyn; Gardd Puddle yw’r lle delfrydol i fod. Mwynhewch gyfnod y coed ceirios addurniadol ac arhoswch i weld golygfa fendigedig y wisteria a’r dringhedydd ar y terasau ym mis Mai.

Gyda’r gwanwyn yn sicr yn yr aer, mae blodau’n gorchuddio’r coed afalau, gellyg a bricyll yn y gerddi llysiau. Dewch o hyd i flodau coed ceirios pinc, byrlymog yma ac acw, ac ewch i’r Ardd Bompeiaidd, lle mae’r wisteria’n rhaeadru i lawr colofnau’r ardd ym mis Mai.

a gyfnod gwell na’r gwanwyn i edmygu gardd furiog restredig Gradd I Erddig o’r 18fed ganrif, gyda dylanwad Iseldiraidd? Daw tymor hirddisgwyliedig y blodau gyda cheinder blodau’r coed ceirios, eirin, gellyg a dros 180 math o goeden afalau, yn gorchuddio’r ardd â chonffeti byd natur.

Wedi’i adeiladu’n hwyr yn y 18fed ganrif, mae’r Ardd Furiog yn Llanerchaeron wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 o flynyddoedd. Dewch o hyd i fwy na chwe deg o fathau o goeden afalau ar hyd y lawntiau ac yn dringo’r waliau, pob un â’i siâp unigryw ei hun, a mwynhewch weld rhesi ar resi o welyau yn llawn blodau.

Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.

Mwynhewch daith addas i gadeiriau olwyn a wnaiff i chi ymlacio o gwmpas y llyn a adferwyd yn Nolmelynllyn, sy’n wych i wylio bywyd gwyllt.

Dilynwch y gylchdaith hawdd hon yn Rhosili, paradwys i bawb sydd am fwynhau’r arfordir – o gerdded i syrffio neu adeiladu cestyll tywod.

Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.

Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.

Mae pennod newydd arwyddocaol yn dechrau yn un o'r cartrefi hanesyddol a drysorir fwyaf ym Mhen Llŷn. Yn dilyn cwblhau prosiect ail-doi sylweddol yn 2024, mae ymchwiliadau manwl ym Mhlas yn Rhiw wedi cadarnhau y bydd y cam nesaf o'i adfer yn dechrau'r gwanwyn hwn. Er mwyn galluogi cynnal y gwaith cadwraeth hanfodol hwn yn ddiogel, bydd y tŷ yn aros ynghau drwy gydol tymor 2026.

Gall ymwelwyr â Chastell a Gardd Powis o 14 Chwefror gael mynediad nes nag erioed o'r blaen at eitemau o bwys byd-eang. Diolch i gyllid gan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, mae grant o ychydig dros £60,000 wedi galluogi gwrthrychau hanesyddol pwysig i gymryd lle mwy amlwg yn oriel yr amgueddfa.

Rydyn ni i gyd wedi bod yno - dechrau 2026 gyda’r bwriadau da o ddod yn fwy heini, mwynhau rhywfaint o awyr iach a mynd allan yn amlach. Wel, beth pe bai ffordd i chi gyfuno hynny i gyd eleni gyda’r Ras Lwybr Taclo10 gyntaf? Bydd y cyntaf yn digwydd ar 25 Ionawr 2026 yn Aberdaron, gyda digwyddiadau misol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn - ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw - ac mae am ddim!

Mae llyfr newydd Bedwyr Williams, sy’n cynnwys bron i 600 o luniau, yn cyfleu’r hiwmor a’r natur ddynol am ymweliadau i leoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru

Ddydd Llun yr wythnos hon, 24 Tachwedd, yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, gwreiddiodd y glasbren Sycamore Gap cyntaf i’w blannu yng Nghymru yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Admiral wedi ymuno mewn partneriaeth strategol newydd sy'n dod â chadwraeth natur a diogelu cymunedau at ei gilydd.

Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyhoeddi bod angen i ni wneud arbedion oherwydd oherwydd y pwysau costau parhaus sy’n effeithio ar lawer o elusennau, ac i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i gyflawni ein strategaeth 10 mlynedd newydd.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o lansio ‘Gwerth Mewn Gair’ sef arddangosfa o arwyddocâd cenedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd rhwng 5 Medi a 30 Hydref, sy’n dathlu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.

Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.

Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau fod yr union beth i chi. | Whether you want meet new friends, or want to try something different, Junior Parkrun could be just the thing for you.
Ymunwch â ni ar y pedwerydd Sul bob mis yn 2026 (ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst) i redeg 10k o Aberdaron.*** Join us on the fourth Sunday of every month in 2026 (except May, July and August) for a 10k trail run from Aberdaron to Porth Meudwy.
Join us for a free run or walk with amazing views of the landscape.
Dewch draw â’r teulu y gwanwyn hwn i fwynhau byd o antur ar lwybr anturiaethau’r Pasg ym Mhlas Newydd a’r Ardd | This spring, treat the whole family to a world of adventure at Plas Newydd House and Garden on an Easter trail.
Dewch draw â’r teulu y gwanwyn hwn i fwynhau byd o antur ar lwybr anturiaethau’r Pasg yng Ngardd Bodnant | This spring, treat the whole family to a world of adventure at Bodnant Garden on an Easter trail.
This spring, treat the whole family to a world of adventure at Erddig Hall and Garden on an Easter trail.
This spring, treat the whole family to a world of adventure at Chirk Castle and Garden on an Easter trail.
From 1 March-31 May there'll be helpful signs around the Vile to help direct you towards the best blossom of the season.

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)