Mae Fin yn Hyfforddwr Personol sy’n defnyddio ei dri chopa lleol i hyfforddi, a chafodd ei annog i chwarae y tu allan yn hytrach nag o flaen sgrîn pan yn blentyn. Mae’n cwblhau pob taith drwy sefyll ar ei ben ar y copa ac annog ymwelwyr eraill i ymuno ag ef.
Pam bod Mynydd Pen-y-fâl mor arbennig?
“Dwi wedi byw yn Sir Fynwy erioed – dwi wedi teithio i fynyddoedd yn Ewrop a Chanada ac edrych i lawr ar deyrnas ryfeddol Machu Picchu hyd yn oed, ac yn fy marn i does dim yn cymharu â’r dirwedd sydd yn ein gardd gefn... ond fe fydden i’n dweud hynny!”
Pam treulio mwy o amser yn yr awyr agored?
“Mae bod yn yr awyr agored yn dda i'r enaid! Dy’n ni ddim yn sylwi pa mor dda yw hi i symud. Mae’n cadw’r cyhyrau a’r cymalau yn ystwyth, mae’n pwmpio’r gwaed, ac mae’n cael effaith ryfeddol ac ein hiechyd meddwl. Mae bywyd wedi troi’n llonydd – ry’n ni’n treulio’r diwrnod cyfan o flaen sgrîn, ry’n ni’n colli’r grefft o sgwrsio. Ewch am dro gyda ffrind, diffoddwch y ffonau a mwynhewch yr heddwch y gall natur ei gynnig.