
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Lapiwch fel nionyn ac ewch allan i'r awyr iach i ganfod gerddi anhygoel wedi’u gweddnewid gan y gaeaf.
Edmygwch olau'r gaeaf ar y planhigion rhododendron a’r camelia, edrychwch i fyny ar y coed bytholwyrdd sydd fel tyrau yn y Pen Pellaf a galwch heibio i fwynhau arddangosfa Gardd y Gaeaf sy’n sioe o ddail, blodau, rhisglau ac aroglau.

Y gaeaf yw'r adeg berffaith i werthfawrogi strwythur yr ardd, gyda phlanhigion leimiau wedi’u plethu a choed ffrwythau a gwrychoedd wedi’u trin yn gain, gyda llwybrau cerdded a phyllau dŵr yn ganolog i'r cyfan yn ystod y tymor oeraf.

Mwynhewch arogl y llwyni peraroglus a gwyddfid y gaeaf, dewch o hyd i’r grwpiau o blanhigion hylithr sydd i’w gweld hwnt ac yma o amgylch yr ardd ac ewch i gynhesrwydd y tŷ gwydr braf lle mae bwrlwm o liwiau.

Dewch i weld cerfluniau o fugeiliaid a bugeilesau yn disgleirio yn y barrug ar Deras yr Adardy ac edmygwch y gwrychoedd yw bytholwyrdd hynafol sy’n sefyll yn dalog o dan heulwen y gaeaf.

Taith gylchol wedi ei marcio o gwmpas ystâd Erddig, ar hyd Afon Clywedog, heibio’r nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif, adfeilion castell a chloddiau amddiffynnol hanesyddol.

Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.

Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.

Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.

Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.

Mae llyfr newydd Bedwyr Williams, sy’n cynnwys bron i 600 o luniau, yn cyfleu’r hiwmor a’r natur ddynol am ymweliadau i leoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru

Ddydd Llun yr wythnos hon, 24 Tachwedd, yn ystod Wythnos Genedlaethol y Coed, gwreiddiodd y glasbren Sycamore Gap cyntaf i’w blannu yng Nghymru yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Admiral wedi ymuno mewn partneriaeth strategol newydd sy'n dod â chadwraeth natur a diogelu cymunedau at ei gilydd.

Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyhoeddi bod angen i ni wneud arbedion oherwydd oherwydd y pwysau costau parhaus sy’n effeithio ar lawer o elusennau, ac i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i gyflawni ein strategaeth 10 mlynedd newydd.

Mae arddangosfa ‘International Garden Photographer of the Year’, Ffotograffydd Gerddi Rhyngwladol y Flwyddyn, yn cyrraedd Gogledd Cymru am y tro cyntaf.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o lansio ‘Gwerth Mewn Gair’ sef arddangosfa o arwyddocâd cenedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd rhwng 5 Medi a 30 Hydref, sy’n dathlu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.

Derbyniodd Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen yng Nghymru hwb ariannol heddiw o £1.1 miliwn i helpu sicrhau bod pobl sy’n byw ar draws Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu mwynhau byd natur a mannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi.

Dewch i wybod am Eisteddfod yr Urdd 2027 a fydd yn Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd.

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.

Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.

Rhowch gynnig ar 50 peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11 a ¾ wrth inni nesáu at dymor yr Hydref a’r Gaeaf. / Have a go at 50 things before you're 11 and 3/4 as the season moves into Autumn and winter.
Enjoy a buffet-style breakfast featuring a very special guest before stepping into the Bodley Stables bookshop for a magical story.
Byddwch yn rhan o’r Park Run sydd am ddim yng Ngardd Goetir Colby bob dydd Sadwrn / Be part of the amazing Free Park run free every Saturday at Colby Woodland Garden.
Dewch at eich gilydd i greu torch Nadoligaidd yn Llanerchaeron | Create a beautiful festive wreath for your front door this Christmas at Llanerchaeron.
This Christmas, step into a world of festive enchantment as you head on a Nutcracker Adventure at Erddig.
This festive season make magical memories as you journey through over 700 years of history at Chirk Castle and Garden.
Ymunwch â ni dros y Nadolig, mae digonedd i wneud. Darganfyddwch fwy am ddigwyddiad Nadolig Castell Penrhyn. **** The festive season is approaching. Find out more about what’s happening at Penrhyn Castle over Christmas.
Meet Father Christmas in our reverse grotto this festive season.

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)