





Am bron iawn 200 o flynyddoedd, cafodd gweision a morynion Erddig eu cofnodi mewn portreadau, ffotograffau a barddoniaeth. Nid oes unrhyw beth tebyg yn bodoli yn unman arall yn y byd.
Wrth grwydro o amgylch ystafelloedd y gweision a’r morynion yn Erddig fe welwch waliau sy’n llawn lluniau a ffotograffau o’r bobl a fu’n gweithio i deulu’r Yorke, Mae’r casgliad yn clodfori eu ffyddlondeb, eu gwasanaeth hir a’u gwaith caled.
Comisiynwyd y portreadau gan y teulu Yorke. Cychwynnwyd y traddodiad yn 1791 gan Philip I a gomisiynodd 6 phortread gan John Walters o Ddinbych. Ymhlith eraill, mae’r ffotograffau yn coffáu:
- Jane Ebrell, morwyn ac ysgubwraig pryfed cop, 87 mlwydd oed;
- Jack Henshaw, ciper, 59 mlwydd oed;
- Jack Nicholas, gweithiwr cegin, 71 mlwydd oed;
- Edward Prince, saer, 73 mlwydd oed.
Penillion Pobl
Fe wnaeth Philip I hefyd gychwyn yr arfer o ysgrifennu rhigymau am bob gwas neu forwyn, a gyhoeddwyd ar ôl cwblhau’r portreadau.
Mae’r cerddi yn ysgafn ac yn annwyl. Maen nhw’n cyfleu hoffter y teulu o’u gweision a’u morynion ffyddlon: mae Jane Ebrell yn cael ei disgrifio fel “Mam pob un ohonom”, ac mae ei meistr yn cofnodi ei diddordeb brwd mewn glanhau:
" From room to room, She drove the dust, With brush and broom, And by the Virtues of her mop, To all uncleanness put a stop."
Clodfori mewn cerddi
Fe wnaeth Simon, mab Philip I, barhau â’r traddodiad o gomisiynu portreadau. Yn 1830, comisiynodd William Jones i beintio portreadau o dri o’r gweision. Roedd yr arlunydd hwn wedi cael ei hyfforddi yn Ysgol yr Academi Frenhinol. Unwaith yn rhagor, clodforwyd y gweision mewn cerddi.
Dyma’r tri gwas y paentiwyd portread ohonynt:
- Thomas Pritchard, garddwr, “Our Gardener, old and run to seed,/ Was once a tall and slender reed”;
- Edward Barnes, coediwr, “Long may He keep the Woods in Order,/ To weed a walk, or trim a Border”;
- a Thomas Rogers, saer, “Another Chip from Nature’s Block/ Is added to the Parent Stock”.
Yn ddiweddarach, cofnododd y teulu Yorke eu gweision mewn portreadau ffotograffig. Gallwch weld rhain yn y tŷ hyd heddiw.