Cynllun Cymell neu Gynllun Creu Delwedd ar gyfer Erddig yn yr 18fed ganrif?

Portread o Jane Ebrell, Ysgubwraig Pryfed Cop, gan John Walters o Ddinbych

Mae hanesion gweision a morynion Erddig yr un mor ddiddorol â hanesion aelodau’r teulu Yorke eu hunain – neu efallai’n fwy diddorol.

Pan ddaeth Erddig i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd yn amlwg y byddai bywydau gweision a morynion yn cael eu dathlu llawn cymaint â rhai eu cyflogwyr. Mae dull anghyffredin y teulu Yorke o goffáu eu staff yn rhoi darlun diddorol iawn i ni heddiw o fywyd gweision a morynion Erddig.
 
Pan gomisiynodd Philip Yorke I set o bortreadau yn 1793, nid ei fwriad oedd creu delweddau ohono ef ei hun a’i anwyliaid yn ystafelloedd urddasol Erddig a oedd newydd gael eu hailwampio. Yn lle hynny, ei weision a’i forynion fyddai gwrthrychau’r delweddau hyn; y porthor cegin, y saer, y ciper a hyd yn oed meistres y tŷ a oedd wedi ymddeol.
 

Traddodiad Barddol

 

Byddai pob portread yn cael ei orffen gyda cherdd am y person yn y darlun. A’r Sgweier Yorke ei hun gyfansoddodd y darnau hyn. Dyna oedd dechrau traddodiad yn Erddig a wnaeth barhau ymhell i’r ugeinfed ganrif ac sydd wedi gadael darlun hynod fyw i ni o gymeriadau a llwyddiannau llawer o’r gweision a’r morynion, a’r berthynas unigryw rhwng sgweier a staff.

Felly beth ydyn ni wedi dysgu o’r cerddi a’r portreadau hyn, a’r ffotograffau diweddarach? Mae’r rheswm dros eu bodolaeth yn dipyn o ddirgelwch, ac mae’n debyg y gwnaeth newid dros amser. Rydym yn gwybod nad oedd y teulu Yorke ymhlith y bobl fwyaf cyfoethog, ac nid oeddent yn gallu talu’r cyflogau gorau i’w staff.

Fodd bynnag, mae’r lluniau a’r cerddi yn dangos ffyddlondeb sylweddol. Fe wnaeth cenedlaethau o sawl teulu wasanaethu teulu Yorke. Efallai fod gan y teulu Yorke ddiddordeb penodol a phersonol ym mywydau eu staff, ac efallai mai dyna oedd tarddiad y cerddi. Efallai byddai’r agosrwydd hwn wedi helpu gwneud iawn am y cyflogau isel, oherwydd gallai’r staff fod wedi ennill mwy petaen nhw wedi gweithio ar ystadau cyfagos.
 
Tybed a yw’r cerddi a’r portreadau yn cynrychioli ‘cynllun cymell’ yn yr 18fed ganrif, lle roedd ffyddlondeb a gwaith caled yn cael eu gwobrwyo gyda lle amlwg ar y wal er mwyn annog aelodau staff eraill i dorchi llewys? Neu a ydyn nhw’n adlewyrchu dymuniad aelodau’r teulu i gael eu cofio rhwng cloriau llyfrau hanes fel cyflogwyr caredig a gofalgar?
 
A dweud y gwir, efallai na chawn ni fyth wybod!