Dywedodd Katie Rees-Jones, Swyddog Gwirfoddolwyr ac Ymglymiad Cymunedol yn Erddig:
"Gyda 1,200 erw o barcdir hyfryd, ystod o gynefinoedd a throeon cefn gwlad, rydym yn cynnig cyfoeth o drysorau cudd i'r gymuned leol eu mwynhau. Mae sbwriel yn her barhaus i'n tîm ystadau a bydd y digwyddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr, ac yn llawer o hwyl, hefyd!"
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Allwch chi ddim anwybyddu gwerth amgylchedd o ansawdd dda. Nid yn unig mae'n effeithio ar y ffordd mae'r lle yn edrych a'i naws, ond mae'n cael effaith sylweddol a helaeth ar fywyd gwyllt, ein hiechyd a'n llesiant a'r economi leol."
I gael gwybod mwy am Gwanwyn Glân Cymru, ewch i www.keepwalestidy.cymru
Mae nifer o ddigwyddiadau glanhad y gwanwyn wedi'u trefnu ledled Cymru. Ar gyfer glanhad Erddig, dewch i'n cyfarfod am 10:30am ar yr Iard Bren.