Rhywbeth ar gyfer y penwythnos
5 a 6 Hydref 10am tan 5pm
Ymunwch â ni am seidr a selsig wrth i Fand Ifton berfformio eu hoff ganeuon yn gynnar yn y prynhawn. Bydd yna *drochi afalau, adrodd straeon gyda Jake Evans, coedwriaeth, Punch a Judy, sesiynau blasu cerdded Nordig (dydd Sadwrn), taith ffotograffiaeth i ddechreuwyr (dydd Sul) a chyfle i gyfarfod â meddyg afal gorau Erddig – y Prif Arddwr, Glyn Smith, 11am tan 4pm.
12 a 13 Hydref 10am tan 5pm
Canfyddwch ein harddangosfa pobi afalau yn y tŷ, ymwelwch â’r bar selsig a seidr, rhowch gynnig ar *drochi afal, sesiynau blasu cerdded Nordig (dydd Sadwrn) a mwynhewch chwedl gyda’r Adroddwr Stori, Jake Evans. Cewch gyfarfod a meddyg afal gorau Erddig, Glyn Smith, 11am tan 4pm. Ymunwch â diwrnod agored cymunedol ein tîm Tyfu Erddig ym Melin Puleston ar 12 Hydref 10am tan 3pm (dydd Sadwrn) ar gyrion ystâd Erddig oddi ar Ffordd Hafod, LL13 7RF.
19 a 20 Hydref 10am tan 5pm
Ymunwch â’n sgwrs gan wenynwyr, *trochi afalau, sesiwn flasu cerdded Nordig (dydd Sadwrn) ac adrodd stori gyda Jake Evans. Cewch gyfarfod a meddyg afal gorau Erddig, Glyn Smith, 11am tan 4pm a pheidiwch â cholli perfformiad olaf y dramodydd lleol Peter Read o The Brothers Yorke (dydd Sul).
26 a 27 Hydref 11am tan 4pm
Canfyddwch y broses hanesyddol o wasgu afalau gyda’n harddangosfeydd gwasgu seidr. Dyma eich cyfle olaf i ymweld â’r bar seidr a selsig a’r arddangosfa pobi afalau yn y tŷ. Bydd yna *drochi afalau, Jake Evans yn adrodd stori ac sesiynau blasu cerdded Nordig (dydd Sadwrn).
* Bydd cost fach i drochi afalau a thostio malws melys
Trwy gydol y mis, bydd yna lwybr dan do ac yn yr awyr agored a sgyrsiau a theithiau afal.
Cadwch lygaid ar y dudalen Beth sy’ ’mlaen am ddigwyddiadau arbennig eraill.