Arlwyo
Mae gennym amrywiaeth o siopau arlwyo i’ch grŵp ddewis pa un o’n llefydd bwyta sy’n apelio fwyaf. Gallant ddewis rhwng ein bwyty trwyddedig (y Llofft Wair), y parlwr te a’r ardd de yn yr awyr agored.
Prisiau a thalu
Cynigir mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym hefyd yn cynnig tocyn am ddim i drefnydd y grŵp a bydd gyrwyr bysiau yn cael mynediad am ddim a thaleb i gael pryd o fwyd.
Mae tocynnau grŵp ar gyfer rhai nad ydynt yn aelodau yn costio £12.50 i oedolion / £6.25 i blant os am ymweld â’r tŷ a’r ardd. Gellir crwydro’r parcdir 1,200 erw yn rhad ac am ddim. Bydd ymwelwyr sy’n rhan o grwpiau yn cael taleb i gael gostyngiad o 15% i’w defnyddio yn y siop wrth wario £15.00 neu ragor.
Dylid talu am yr holl docynnau grŵp wrth gyrraedd, trwy wneud un taliad yn y swyddfa docynnau. Rydym yn derbyn arian parod, cardiau credyd/debyd a sieciau (taladwy i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Cynllunio eich ymweliad
Ar gyfartaledd, bydd ymwelwyr yn treulio 2.5 awr yn Erddig yn crwydro o amgylch y tŷ a’r gerddi. Fe ddylech chi neilltuo o leiaf awr i ymweld â’r tŷ.
Gall ymweliad â’r ardd gymryd awr hefyd, ond os oes gennych chi ddiddordeb penodol, efallai bydd angen rhagor o amser arnoch chi. Mae’r gerddi ar eu gorau rhwng mis Mawrth a mis Hydref.
Mewn tywydd garw, efallai byddwn ni’n cau Erddig oherwydd rhesymau diogelwch. Byddwn ni’n cysylltu gyda’ch grŵp cyn gynted ag y bo modd os bydd hynny’n effeithio ar eich ymweliad.
Hygyrchedd
Gellir benthyca cadeiriau olwyn. Os ydych chi’n dymuno gwneud hyn, rhowch wybod i ni ymlaen llaw. Mae’r gerddi, llawr gwaelod y tŷ, y bwyty a’r siop oll yn hygyrch.
Nid oes unrhyw lifftiau yn y tŷ, felly rydym yn argymell ein hymweliad rhithiol i’r ymwelwyr hynny sy’n methu defnyddio’r grisiau. Mae’r delweddau yn cynnwys mannau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd a chyfle rhyngweithiol i agor a chau dodrefn arbennig.
Uchafbwyntiau
Bywyd go iawn y gweision a’r morynion
Am bron iawn 200 o flynyddoedd, cafodd gweision a morynion Erddig eu cofnodi mewn portreadau, ffotograffau a barddoniaeth. Nid oes unrhyw beth tebyg yn bodoli yn unman arall yn y byd.
Crwydrwch o amgylch ystafelloedd y gweision a’r morynion yn Erddig a darganfyddwch waliau sydd wedi’u gorchuddio â lluniau a ffotograffau o’r gweision a’r morynion sy’n cael eu clodfori am eu ffyddlondeb, hyd eu gwasanaeth a’u gwaith caled.