Ymwelwch ag adran bwyd a diod Cymreig ein siop ac ewch â blas o Gymru adref gyda chi.
Os yw’r ardd Gradd 1 fendigedig wedi eich ysbrydoli, dewch i weld ein dewis o blanhigion sydd wedi cael eu tyfu mewn compost di-fawn.
Siop lyfrau Erddig
Trowch ddalenni’r cannoedd o lyfrau sydd wedi’u harddangos gyda gofal gan ein tîm ymroddgar o wirfoddolwyr yn y siop lyfrau. Mae llyfrau’n cael eu dewis i’w gosod ar silff ‘uchafbwyntiau’r wythnos’ i adlewyrchu’r tymor.