Rydym yn cynnig teithiau tywysedig i ddisgyblion ysgolion cynradd o fis Mawrth hyd at ddiwedd Tachwedd, ar y thema ‘Cartrefi o’r Gorffennol’. Gallwn ni gynnig diwrnod cyfan o weithgareddau dan arweiniad ar gyfer grwpiau o hyd at 40 o ddisgyblion.
Cartrefi o'r gorffennol
Dysgwch am y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng cartrefi heddiw a bywyd mewn plasty ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Bydd plant yn dysgu rhagor am fywydau’r gweision a’r morynion niferus oedd yn gweithio yn Erddig. Bydd disgyblion yn cael cyfle i wisgo dillad o’r gorffennol a phrofi agweddau ar fywydau’r gweision a’r morynion trwy weithgareddau ymarferol mewn mannau megis y golchdai a’r ceginau.
Bydd ein tywyswyr gwirfoddol mewn gwisgoedd o’r cyfnod yn arwain y gweithgareddau.