Blog dydd Iau yn yr Eisteddfod

Manon Steffan Ros, Eisteddfod

Does dim amheuaeth bod eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyflawni'n union yr hyn y mae ei wefan yn addo: sef, diwrnod llawn o hwyl. Ond mae'r sgwrs y bore 'ma yn yr Eisteddfod wedi fy atgoffa bod ei atyniadau hefyd yn gallu cynnig rhywbeth llawer dyfnach.

Ein siaradwr oedd y nofelydd, dramodydd ac arlunydd Cymreig buddugol, Manon Steffan Ross. Mae hi'n un o'r artistiaid preswyl eleni yng Nghastell Penrhyn, ac roedd yn ymweld â'n stondin i siarad am ei arddangosfa 12 Stori, sy'n rhedeg tan y 4ydd o Dachwedd.

Pan gyrhaeddodd Manon roedd hi’n ymddangos yn hynod o hamddenol o ystyried bod ganddi amserlen ryfeddol o brysur. Cyhoeddwyd ddoe ei bod wedi ennill medal ryddiaith yr Eisteddfod, ac mae’r cyfryngau yn galw am gyfweliadau ac mae ei hangen mewn myrdd o leoliadau diwylliannol drwy'r Eisteddfod.

Ond gyda'i ffordd dawel, ddiymhongar ac ystyriol, aeth â ni drwy brif elfennau'r arddangosfa. Mae Manon yn frodor o'r cymunedau chwarelyddol a gafodd eu tra-arglwyddiaethu drostynt gan yr ail barwniaid Penrhyn, George Sholto Douglas-Pennant, ac er bod hyn wedi dylanwadu ar ei gwaith yn fawr, caethweision y teulu yn Jamaica'r ydi ffocws pwerus i’r gwaith celf yma. Mae Manon wedi gosod hanner dwsin o ddarnau yng nghrombil ymerodraeth yr Arglwydd, sef ystafelloedd preifat yr Arglwydd. Maent yn weddol ddi-nod ar yr olwg gyntaf, ond maent yn rhoi effaith emosiynol bwerus pan fydd yr arswyd llawn o'u perthnasedd yn cael ei ystyried.

Mae awyrgylch yr arddangosfa yn cael ei sefydlu gan y darn cyntaf, sef cais oeraidd Arglwyddes Penrhyn – a ddarganfuwyd mewn llythyr yn archifau’r teulu – i'r rheolwr planhigfa i beidio â gorweithio'r gwartheg a'r caethweision. Mae hwn wedi ei frodio'n ddestlus ar gotwm gwyn. Wedyn, yn swyddfa'r Arglwydd, mae casgliad o ffigyrau duon bach – toriadau o'r llun cyfoes bondigrybwyll hwnnw o long gaethweision – fel teganau, a’r rheini wedi ei amgylchynu gan gyffion wedi eu brodio.

Ond y mwyaf pwerus o'r cyfan yw'r ddelwedd o fachgen croenddu, sy'n edrych i fyw ein llygaid o du-fewn system ffeilio'r Arglwydd. Wrth ymadael, gadewir yr ymwelydd gyda’r dyfyniad cofiadwy William Wilberforce, yr ymgyrchydd dros y diddymu caethwasiaeth: "Efallai eich bod yn dewis edrych i'r cyfeiriad arall, ond ni allwch byth ddweud na wyddech chi am hyn". Dyfyniad sy'n llawn mor berthnasol i anghyfiawnderau heddiw ag yr oedd pan ei ysgrifennwyd, 200 mlynedd yn ôl.

Wrth i'r Ymddiriedolaeth gymryd ei rhaglen Hanes Heriol ymlaen i ymdrin â phrotestio a newid yn hawliau pobl, edrychaf ymlaen at ei gweld yn gwireddu potensial cynifer o'i thai i gyflawni llawer, llawer mwy na diwrnod llawn o hwyl