Blog dydd Mercher yn yr Eisteddfod

Elfen, Eisteddfod

Rydym ni ychydig dros hanner ffordd trwy ein rhaglen o sgyrsiau yn yr Eisteddfod a chefais fy nharo gan y ffordd y mae'r holl sgyrsiau yn ymddangos fel pe baent yn gysylltiedig. Mae pwnc un yn arwain ymlaen i'r sgwrs nesaf, ac maent eisoes yn dechrau creu darlun nedig o sefyllfa'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn awr ac, yn bwysicach, ym mhle y mae angen inni fynd yn y dyfodol.

Credaf fod y ddwy sgwrs gyntaf yn y rhaglen heddiw'n dangos y pwynt hwn yn daclus.

Rhoddod Claudine Gerrard, archeolegydd De Cymru i’r Ymddiriedolaeth, rhagflas i ni o ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer Partneriaeth Tirlun Gŵyr (a fydd ar gael yn fuan drwy eu gwefan) sy'n datgelu'r gwaith hynod ddiddorol a wneir gan wirfoddolwyr lleol er mwyn deall yn well y dirwedd gudd o amgylch Rhosili. Gan weithio gyda Claudine ac archeolegwyr o gwmni Archaeoleg y Mynydd Du, mae gwirfoddolwyr yn llythrennol yn plicio haenau hanes ac yn dechrau datgelu tystiolaeth o dirwedd goll.

A'r hyn sy'n gwneud y prosiect hwn yn wahanol i lawer o rhai tebyg yw ei fod hefyd yn cynnwys archaeoleg arbrofol. Yn y ffilm, sy’n dangos gwirfoddolwyr yn adeiladu cyfres i odynau sychu ŷd (mae un ohonynt yn siarad â brwdfrydedd annisgwyl am leithder cywir y clom – mwd a gwellt i chi a fi) er mwyn deall yn well sut sychodd cymunedau canoloesol-cynnar Gŵyr eu graen am y Gaeaf.

Crynhodd Claudine ei gwaith a'r prosiect yn dda pan ddywedodd, "Does dim pwynt i ni wneud y gwaith yma os nad oes gan bobl leol ddiddordeb ac yn gallu ymwneud â fo. Rhaid i chi gael eich dwylo'n fudr i brofi rhywbeth am fywydau ein cyndeidiau ".

Yna, clywsom gan Ceridwen Davies o Gerddi Dyffryn, sydd wedi bod yn gweithio ar brosiect sy'n cynnwys – gallwch ddyfalu beth – gwirfoddolwyr lleol yn cael eu dwylo'n fudr i ail-greu a deall yn well tirwedd sydd ar goll. Efallai na ddylwn i lafurio’r tebygrwydd yn ormodol, gan fod y prosiect hwn mewn lleoliad eithaf gwahanol.

Crëwyd y gerddi muriog yn Nyffryn gan y barwn glo penigamp, John Cory. Gellir cael mesur o'i lwyddiant gan y ffaith mai yn anterth y ffyniant glo yn yr 1800au hwyr, roedd yn berchen ar fwy o wagenni glo nag unrhyw un o'r barwniaid glo Cymreig eraill, megis Arglwydd Bute a David Davies.

Roedd llawer o'r cyfoeth hwn yn cael ei wario ar y gerddi yn Nyffryn gan mab John, Reginald, pan dorrodd y Rhyfel Mawr allan. Gyda mewnforion wedi'u blocio, roedd pawb yn cael eu hannog i dyfu eu llysiau eu hunain ac fe wnaeth y teulu Cory, oedd yn Methodistiaid dyngarol, wneud ymdrech fawr i helpu'r gymuned leol i godi i'r her hon. Magwyd can-mil o blanhigion lysiau a'u dosbarthu’n lleol, ac yn 1918, ysgrifennodd Prif Arddwr Dyffryn, Arthur Cobb erthygl yn newyddion y Barry Docks News ar y ' Ten-Perch Allotment': hynny ydi faint o dir y gellid ei 'gloddio gan ddyn dosbarth gweithiol yn ei amser hamdden'.

Yn y sgwrs, disgrifiodd Ceridwen sut y defnyddiwyd yr erthygl fel cynllun-gwaith ar gyfer prosiect gwirfoddolwyr hynod lwyddiannus i ail-greu rhandir 1918 ‘Ten-Perch’ ar Dyffryn. Ar ol y sgwrs, gofynnais Ceridwen i ddangos i mi Adeilad Cory, i lawr Stryd Bute o'n lleoliad. Tynnais lun ohoni’n sefyll wrth yr adeilad clasurol hon (sy’n wag, heb ei ddefnyddio ac ar werth, gyda'r ffordd), a oedd yn ganolbwynt gweinyddol yr ymerodraeth a greodd gweithle Ceridwen.

Felly dyna chi, dau sgwrs gan staff rheng flaen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n gweithio gyda chymunedau lleol; yn palu i mewn i ddaear eu treftadaeth i ddeall fwy am fywydau eu hynafiaid.