Dewch i fwynhau natur yng Nghors Geirch yn Llyn

Dewch i weld gwlyptir sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae Cors Geirch yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn ardal gadwraeth arbennig.
Ewch am dro o amgylch y warchodfa brydferth i chi gael gweld natur ar ei gorau. Dyma’r ‘stafell ddosbarth awyr agored gorau erioed. Mae’n hafan gyfoethog i fywyd gwyllt ac yn gynefin i blanhigion ac infertebratau prin.
Hafan i fywyd gwyllt
Dewch i ddarganfod gwarchodfa sy’n gartref i nifer o blanhigion a rhywogaethau prin megis y fursen fach goch, y fursen las a glöyn byw britheg y gors. Y gors hon yw’r unig ardal yng Nghymru lle mae’r falwen droellog Desmoulin wedi cael ei chofnodi.
Yn ôl pob tebyg datblygodd y gors ar safle llyn cyfrewlifol fawr. Mae ffynhonnau yn codi bob ochr iddi, ac yn cario mwynau toddedig sy’n cyfrannu at natur gyfoethog y cynefin.
Cors alcalinaidd
Natur alcalinaidd Cors Geirch sy’n cyfri, i raddau helaeth, am y math o lystyfiant arbennig a’r planhigion prin sy’n tyfu yma. Mae corsydd cyfoethog fel hyn yn brin yn y Deyrnas Gyfunol. Oherwydd y dŵr alcalinaidd sy’n draenio i’r gors o’r creigiau calchfaen mandyllog oddi amgylch ceir cyfuniad anghyffredin a phrin o blanhigion, fel;
- Tegeirian y gors gulddail
- Corsfrwynen ddu
- Marchredynen
- Helygen Mair
- Glaswellt y gweunydd
- Brwynen glymog
- Corsen gyffredin
- Llymfrwynen
- Plu’r gweunydd eiddil
Oherwydd bod y math hwn o wlyptir mor brin, ac oherwydd yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt sydd yma, mae’r warchodfa’n cael ei hamddiffyn gan sawl dynodiad gwahanol.
Rhywbeth i’w weld ym mhob tymor
Yn y gwanwyn mae carped lliwgar o friallu, blodau’r gwynt a bwtsias y gog ar lawr y goedwig uwchben y gors. Mae rhywbeth arbennig i’w weld yma trwy gydol y flwyddyn.
Mae Cors Geirch yn eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am ei reoli.