
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Yn ystod hanner tymor mis Hydref, dewch â’r teulu cyfan i ymuno â ni i ddathlu Calan Gaeaf gyda rhaglen o ddigwyddiadau hwyliog i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau a chwedlau Cymru – gydag ychydig o ysbryd brawychus a bwganllyd y tymor.

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Dewch i gerdded ymysg coed llawn afalau a chroesawu’r Hydref drwy grensian eich ffordd drwy un o’r llu o berllannau traddodiadol dan ein gofal yng Nghymru. Dyma ein hoff berllannau y dylech ymweld â nhw'r tymor hwn.
Archwiliwch berllan Erddig ac edmygwch y coed espalier sydd wedi’u trin yn fedrus i hongian yn drwm â sawl amrywiaeth gwahanol o afalau treftadaeth. Peidiwch â cholli’r dathliadau penwythnos cynaeafu afalau blynyddol ar 26-27 Medi a 3-4 Hydref, sy’n cynnwys arddangosfa o afalau hanesyddol a chyfle i flasu afalau.

Mae dros 60 o wahanol fathau o afalau’n tyfu yn yr Ardd Furiog, gan gynnwys ‘Llanerchaeron Peach’. Dathlwch y cynaeafu ar Benwythnos yr Afal ddydd 2-4 Hydref, un o adegau craidd yr hydref, i weld arddangosfa afalau Llanerchaeron.

Mae coed afalau’r Ardd Ffurfiol Edwardaidd dros 100 mlwydd oed. Mae nifer o afalau prin a hen amrywiaethau Cymreig yn tyfu yn yr ardd, gan gynnwys y coed afalau pyramid sydd wedi'u trin a’u tocio’n ofalus.

Ymysg 90 erw’r ardd a’r parcdir, Gardd y Berllan yw’r ardd yn Nhŷ Tredegar. Troellwch drwy labrinth o lwybrau cudd ymysg y coed afalau, lle mae nifer o amrywiaethau o afalau treftadaeth yn tyfu.

Mwynhewch y daith hon ar ochr bryn – mae’n ymarfer corff da gyda golygfeydd panoramig i wneud i chi deimlo ar ben y byd.

Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.

Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.

Mae'r daith gerdded gylchol hardd hon yn troelli drwy goetiroedd ystadau a thir fferm. Yn disgyn i'r dyffryn, yna'n dringo'n serth i fferm Craig-y-Borion Fach. Mwynhewch olygfeydd arfordirol godidog o dir fferm gwastad, sy'n llawn blodau gwyllt yn y gwanwyn a dechrau'r haf, cyn dychwelyd trwy goetir heddychlon Craig y Borion.

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.

Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.

Yn nyffryn Cymreig dramatig Nant Ffrancon yn Eryri, mae prosiect mawr i adfer byd natur yn mynd rhagddo i adfer cynefinoedd, adfer rhywogaethau prin ac ail-gysylltu cymunedau â byd natur.

Visitors are invited to discover 15 National Trust Cymru places across Wales for free this September as part of Open Doors, Cadw's annual celebration of Welsh heritage.

Mae amodau anarferol o sych wedi datgelu pennod gudd o orffennol Llandeilo yn ystod y rhyfel yn Ninefwr, safle yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Sir Gaer.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dathlu 50 mlynedd o Gasebo Colby yng Ngardd Goedwig Colby ac wedi lansio apêl codi arian i helpu i adfer y strwythur anarferol.

Mae archaeolegwyr wedi datgelu mai'r gwaith celf craig cynharaf ym Mhrydain y gwyddys amdani yw'r streipiau amlwg a baentiwyd mewn ogof ar Benrhyn Gŵyr . Mae'r tîm rhyngwladol a gynhaliodd yr ymchwil newydd yn ogof Bacon Hole, sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, wedi cadarnhau bod y gwaith celf wedi'i greu gan bobl 17,100 o flynyddoedd yn ôl.

Mae prosiect mawr i adfer mawndiroedd ar Y Migneint yn Eryri eisoes yn sicrhau manteision sylweddol i fywyd gwyllt, yr hinsawdd a dŵr, diolch i bartneriaeth gydweithredol rhwng RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Gwahoddir ymwelwyr i Gastell y Waun ar daith anhygoel drwy filiynau o flynyddoedd o hanes yr hinsawdd gyda lansio gosodiad pop-yp newydd sbon, ‘Gerddi Teithio Mewn Amser: O’r Ddaear Hynafol i Fywyd ar y Blaned Mawrth’.

Pleser i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw cyhoeddi y bydd ystafell arddangos newydd yn agor ym Mhlas Newydd, Ynys Môn yn ystod mis Mai, gan osod ffilm, ffasiwn a hanes ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn ailgyflwyno’r ymwelwyr i un o gyn-breswylwyr mwyaf rhyfeddol y tŷ, sef ‘Ardalydd y Ddawns’.

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.

Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.

Gwaith celf unigryw wedi’i greu gan y gymuned er mwyn dathlu tirweddau, pobl a bywyd gwyllt dalgylch Afon Conwy | A unique community-created artwork celebrating the landscapes, people and wildlife of the Afon Conwy catchment
From 5 September to 1 November, borrow an explorer backpack every weekend from the Welcome Centre and use what's inside to explore the nature at Colby.
Dathlu'r afal yn Llanerchaeron gyda arddangosfa afalau, stondinau a cyfle i adnabod eich afalau chi *** Celebrating the humble apple, display of Llanerchaeron apples, pressing demonstrations, stalls and bring your own apples to be identified.
Cyfle i ddarganfod arddangosfa newydd ar fywyd rhyfeddol y 5ed Ardalydd Môn yn cynnwys pump o wisgoedd o’r ffilm Madfabulous | Discover more about the 5th Marquess of Anglesey, including five costumes from the film Madfabulous.
Join us this autumn as we celebrate Erddig’s annual Apple Harvest Celebration with a host of activities across two weekends the whole family can enjoy.
Discover a selection of shortlisted Earth Photo images in Erddig’s garden, exploring people, places and life on a changing planet.
Ymunwch â ni am daith gerdded arweinedig i weld gwiwerod coch ym Mhlas Newydd | Join us for a guided red squirrel walk at Plas Newydd
Help us restore nature at our National Trust site at Ty Mawr Farm through a variety of practical conservation activities.

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)