Helpwch y wenynen yn Erddig ac adref
Pan fyddwch yn ymweld, cymerwch binsiad bychan o hadau blodau gwyllt cyn gadael, i'w tyfu adref a helpu'r gwenyn yn eich gardd. Bydd rhodd fechan yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n helpu ni i greu ardal wyllt newydd ar gyfer llesiant ar ein hystâd a fydd yn helpu gwenyn yn ogystal â'n hymwelwyr.
Mae treulio amser ym myd natur yn lleihau gorbryder ac iselder yn ôl yr Adroddiad Natur ac Iechyd Meddwl a gynhyrchwyd gan yr elusen iechyd meddwl, Mind. Dyma pam ein bod yn codi arian i greu ardal newydd y gall pawb ei mwynhau yn ein parcdir. Gallwch brynu tocyn raffl yn ein siop lyfrau a bydd bob tocyn a werthir yn mynd tuag at ein hardal wyllt er budd llesiant.
Mae ein llwybr gwenyn prysur yn Erddig yn agored o 11 Mai tan 30 Mehefin.