


Dewch i ddarganfod traeth tywodlyd delfrydol yn Llŷn. Mae Porth Ceiriad yn un o hoff drysorau cerddwyr, syrffwyr a daearegwyr.
Mae’r traeth yn wynebu’r de ac yn gysgodol iawn. Traeth da ar gyfer torheulo a lle poblogaidd i fwynhau chwaraeon dŵr yn enwedig syrffio, corff-fyrddio, caiacio a hwylio.
Gall amodau syrffio ym Mhorth Ceiriad fod yn ardderchog ac maen nhw ar eu gorau o gwmpas llanw canolig a llanw uchel. Nid yw ymchwyddiadau mawr yn addas i ddechreuwyr.
Caniateir cŵn ar y traeth trwy gydol y flwyddyn a gallwch gyrraedd y traeth o Lwybr Arfordir Cymru.
Ewch i grwydro, a gweld rhyfeddodau
Ewch am dro ar hyd traeth Porth Ceiriad i chi gael gweld sut y ffurfiwyd y rhan hon o Ben Llŷn. Trowch i edrych at y tir am funud – er mwyn i chi weld miliynau o flynyddoedd o esblygiad daearegol o flaen eich llygaid.
Wrth i chi gerdded ar hyd y traeth sylwch ar ongl yr haenau cerrig. Mae grymoedd mawr dros filiynau o flynyddoedd wedi plygu’r cerrig hyn a’u gogwyddo i greu’r siapiau a’r onglau a welwn ni heddiw.
Traethau Llŷn
Mae gan draethau Pen Llŷn rhywbeth i’w gynnig i bawb - o draethau anghysbell, llawn bywyd gwyllt a phrydferthwch naturiol, i gyrchfannau arfordirol poblogaidd. Dewch i fwynhau a chreu atgofion bythgofiadwy.
Mae yna byllau glan môr dirifedi i’w harchwilio, cregyn i’w casglu a chestyll tywod i’w hadeiladau a’u dymchwel. Gallwch ail-fyw atgofion arbennig a chreu cannoedd o rhai newydd ar rai o’n traethau gorau.