Meithrin cysylltiadau â byd natur
Mae gan Erddig hanes o gysylltu pobl ifanc â byd natur. Mae wedi bod yn rhedeg unig glwb ieuenctid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghanolfan Cefn Gwlad Felin Puleston ar gyrion Ystâd Erddig ers 1999. Wedi ei sefydlu yn wreiddiol i ysbrydoli pobl ifanc i wirfoddoli, mae'r clwb ers hynny wedi helpu i adfer y dirwedd o'i gwmpas, a chreu rhandiroedd, perllan a hyd yn oed ardal chwarae naturiol i blant.
Gan ddilyn ei olion traed, mae clwb ieuenctid Pentre Gwyn yn cynnal sesiynau GAP bob yn ail ddydd Mercher, gan gynnig gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc Parc Caia. Gan weithio â cheidwaid profiadol, gall aelodau gyfrannu at adeiladu fframiau gwelyau blodau, plannu a thrin llysiau ac adeiladu blychau ar gyfer adar ac ystlumod lleol. Gydag achrediad gan fwrdd cymwysterau AQA, gall pobl ifanc hyd yn oed weithio tuag at wobrau mewn garddio, defnyddio offer ac iechyd a diogelwch. Gwirfoddolwyr GAP yn adeiladu bwydwr adar yng nghlwb ieuenctid Pentre Gwyn ger Erddig.