
Dewch i fwynhau rhaglen fywiog o sgyrsiau, eitemau a straeon sy’n adlewyrchu’n gwaith ledled Cymru yn yr Eisteddfod eleni.
Fel un o elusennau cadwraeth a threftadaeth mwyaf blaenllaw Ewrop ry’n ni’n awyddus i ffeindio ffyrdd newydd o wneud ein safleoedd yn fwy perthnasol, ac yn haws eu darganfod fel adnoddau diwylliannol byw. Drwy’r rhaglen hon yn y ‘Steddfod ry’n ni am rannu rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu, ac i feddwl am bethau gwahanol y gallen ni eu gwneud i gryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a’r lleoedd dan ein gofal.
Lleoliadau
- Sied yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhwng adeilad y Pierhead a’r Senedd – Cynulliad Cenedlaethol, Bae Caerdydd
- BayArt 54 Heol Bute, Caerdydd, CF10 5AF
Mae pob digwyddiad byw yn rhad ac am ddim. Bydd cragen gonc yn cael ei chwythu 15 munud cyn i bob digwyddiad gychwyn.