Lleoedd i aros yng Ngogledd Sir Benfro
Hwnt ac yma ar draws gogledd Sir Benfro fe ddewch o hyd i fythynnod gwyliau hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cewch gysgu’n drwm ac yn dawel mewn tai cysurus llawn cymeriad, sy’n ganolfannau perffaith ar gyfer darganfod cyrion gorllewinol Cymru.