Dewch i ymweld â’n maenordy dymunol â’i ardd addurnol a’i olygfeydd ysblennydd. Mae mewn llecyn delfrydol ac mae’r golygfeydd a welwch ar draws Bae Ceredigion o’r gerddi ymhlith y mwyaf ysblennydd ym Mhrydain, ym mhob tymor.
Mae ein canolfan ragoriaeth arfordirol yn borth i chi ddarganfod Pen Llŷn. Ysbrydolwyd cynllun y ganolfan newydd gan bensaernïaeth Aberdaron a threftadaeth forwrol yr ardal.
Yn ogystal â harddwch, mae hwyl i’w gael ar y glannau. Mae Porthor yn lle gwych ar gyfer gweithgareddau môr – syrffio, corff-fyrddio neu gaiacio. Cewch grwydro’r traeth sy’n ardderchog i deuluoedd a mwynhau ymlacio arno.
Dewch i Borthdinllaen dros Sulgwyn y gwyliau'r haf i roi cynnig ar badlfyrddio’n sefyll ar eich bwrdd. Padlwch dros y morwellt tra’n mwynhau’r olygfa dros y traeth bendigedig yma yn Llŷn.
Ceir golygfeydd trawiadol ar hyd y rhan arw hon o’r arfordir ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Dyma daith gerdded wych i ddysgu mwy am hanes a threftadaeth yr ardal.
Darganfyddwch y lleoedd gorau yn Llŷn i gael cip ar eich hoff anifeiliaid glan môr; rhyfeddod gweld morloi, y brain coes-goch enwog, cyfarch dolffiniaid a gwely morwellt Porthdinllaen.
Ewch nôl ar daith trwy amser a darganfyddwch lwybr y pererinion i Enlli, olion archaeolegol cyfoethog yn Rhiw, porthladdoedd pysgota prysur Llŷn, eglwysi bach hardd a thyddynnod.
O greigiau tanllyd i gopaon rhewlifol, tywod chwibanog i batrymau caeau hynafol; darganfyddwch sut y ffurfiwyd Llŷn ein dyddiau ni gan y ddaear a gan bobol.
Ein gwaith
Enjoy expansive views along the Llyn PeninsulaNational Trust Images / Joe Cornish
Gyda’i draethau tywod braf, moroedd disglair ac awyr las, mae Penrhyn Llŷn yn ardal hyfryd. Dewch i aros yn un o’n bythynnod gwyliau a chrwydro’r ardal arbennig hon wrth eich pwysau.