Blog dydd Gwener yn yr Eisteddfod

Angharad Tomos, Delyth Prys, Eisteddfod

Bore yma ar ein stondin yn yr Eisteddfod cawsom stori anhygoel sy'n berthnasol i bob sefydliad sy'n weithgar yng Nghymru ac yn ymdrechu i warchod cymeriad ieithyddol ein gwlad.

Daeth cynulleidfa sylweddol i wrando ar yr awdures, colofnydd ac ymgyrchydd iaith Angharad Tomos, oedd yn sgwrsio gyda Delyth Prys am ei mam ysbrydoledig, Eileen Beasley. Mae'r hanesyn wnaethant ei rannu yn un o benderfyniaeth ac aberth personol, a hoffwn ei grynhoi yma...

Un diwrnod yn dechrau'r 1950au disgynnodd amlen frown ddi-nod i’r llawr ger drws tŷ ym mhentref Llangennech ar gyrion Llanelli yn Sir Gaerfyrddin. Efallai mai llythyr cyffredin oedd hwn, ond roedd canlyniad ei ddyfodiad yn unrhyw beth ond cyffredin. Arweiniodd at ymgyrch wyth mlynedd o anufudd-dod sifil sy'n parhau i fod yn berthnasol i statws y Gymraeg, bron i saith degawd yn ddiweddarach.

Cododd deiliad y tŷ – y glöwr, Trefor Beasley – y llythyr a'i agor i ganfod bil treth gan y cyngor lleol yn Saesneg yn unig. Fe'i dangosodd i'w wraig Eileen gan ddweud, "Dydi hwn ddim ynn gwneud synnwyr." Mi welodd hi ar unwaith pa mor hurt oedd y sefyllfa. Er ei fod yn byw mewn ardal Gymraeg, lle'r oedd holl Aelodau'r Cyngor yn siarad Cymraeg, dim ond yn Saesneg yr oedd yr holl ddogfennau swyddogol. Roedd ymateb Eileen yn bendant: "Does dim rhaid i ni dalu, felly."

Sawl blwyddyn cyn i Rosa Parks wrthod ildio ei sedd bws i ddyn gwyn yn Alabama, penderfynodd Eileen wneud safiad. Ac ar ôl brwydr epig wyth mlynedd, tra roedd hi’n dal i fyw mewn tŷ a oedd wedi cael ei wagio o'i chelfi teuluol gan feilïaid, enillodd Eileen ei brwydr. Cytunodd y Cyngor i wneud ei holl gyfathrebu yn ddwyieithog; buddugoliaeth symbolaidd iawn a arweiniodd yn y pen draw at ddeddfau iaith 1998 a 2011 a roddodd statws cyfartal i'r Gymraeg a’r Saesneg.

Nid am y tro cyntaf yn y blog hwn o fy wythnos yn yr Eisteddfod, gofynnaf y cwestiwn, "Beth sydd a wnelo hyn â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol?" Unwaith eto, rhaid i mi ateb drwy ddweud "cryn dipyn, i ddweud y gwir."

Mae iaith hynafol ein gwlad yn digwydd bod yn rhan hanfodol o hanes a bywyd dyddiol cymaint feddiannau’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru. Cymerwch Gastell y Waun er enghraifft, cartref ar un tro i Thomas, yr 8fed Barwn De-Walden, neu Tommy Ellis, fel ag adnabyddir yng nghylchoedd diwylliannol Cymru. Fe'i disgrifiwyd unwaith fel yr hen lanc cyfoethocaf ym Mhrydain. Ymddiddorodd ym mhopeth Cymraeg, dysgodd yr iaith, ysgrifennodd barddoniaeth Gymraeg a defnyddiodd ei ffortiwn i ariannu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y 1930au.

Yna cymerwch Stad Ysbyty, lle mae iaith a ffordd o fyw ei thenantiaid erioed wedi llywio amcanion yr Ymddiriedolaeth. Roedd asiant yr Ymddiriedolaeth yn y 1960s, John Tetley, yn argyhoeddedig ei fod yn mesur o’i lwyddiant fel rheolwr y stâd fod maes chwarae ysgol y pentref yn dal i atseinio i sŵn plant – pob un ohonynt yn rhugl yn y Gymraeg wrth gwrs.

Roedd sgwrs ddiddorol y bore 'ma – a draddodwyd ym mhrifwyl y Cymry – wedi fy atgoffa pa mor bwysig yw hi fod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i chwarae ei rhan i gefnogi ein tafodiaith brodorol, a ni aiff aberth yr Beasleys yn ofer.