Mwynhau morloi llwyd Pen Llŷn

Morlo llwyd yn gorweddian ar draeth

Mae tua 5,000 o forloi llwyd yn byw yn y dŵr o amgylch Gorllewin Cymru, ac mae’n bosib eu gweld trwy gydol y flwyddyn. Gellir gweld morloi bychain rhwng mis Medi a Rhagfyr.

Y morlo yw un o'n mamaliaid mwyaf carismatig, ac mae’n byw ar hyd rhan helaeth o arfordir Pen Llŷn. Mae’n bleser eu gwylio oherwydd eu natur chwilfrydig, ac fe welwch eu pennau’n aml yn codi uwchben wyneb y dŵr.

Mae dau fath o forlo’n byw ym Mhrydain, sef y morlo llwyd (Halichoerus grypus) a’r morlo cyffredin (Phoca vitulina). Mae’r prif wahaniaeth i'w weld yn siâp eu hwynebau - mae gan y morlo cyffredin drwyn byr a ffroenau siâp-V, tra bo gan y morlo llwyd drwyn hirach a ffroenau cyfochrog.

Saffari morloi

Mae Pen Llŷn yn ardal bwysig i’r morlo llwyd. Mae morloi llwyd yn fwy ac yn llawer iawn cryfach na'r  morloi cyffredin sy’n byw ar lannau dwyreiniol y Deyrnas Gyfunol.

Mae tua hanner poblogaeth y byd o forloi llwyd yn byw ar hyd arfordir Prydain, felly mae siawns go dda y cewch chi gip ar y mamal mawr hwn ym Mhen Llŷn.

Ble i weld morloi

Rhai o’r lleoedd gorau i weld morloi llwyd yw Porthdinllaen, Ynys Enlli a Llwybr yr Arfordir o amgylch Porth Meudwy.

Mae casgliadau mawr o forloi llwyd yn magu ar ynysoedd St Tudwal ac Ynys Enlli. Mae grwpiau llai, mwy ynysig, yn byw ar hyd arfordir y gogledd, fel grŵp bychan a ddarganfuwyd ger Porthdinllaen.

Edrychwch draw at Ynys Enlli
Braich y Pwll, Uwchmynydd, Penrhyn Llŷn
Edrychwch draw at Ynys Enlli

Awgrymiadau ar gyfer gwylio morloi

Cadwch yn ddigon pell o’r morloi a pheidiwch â tharfu arnyn nhw. Defnyddiwch finocwlars i edrych o bell ar y morloi benyw a'r morloi bychain yn ystod y tymor bwrw lloi.

Mae’n hawdd gwylio morloi am eu bod nhw’n ddigon trwsgl ar y cyfan, ac yn araf ar y tir – dewch o hyd i le da i’w gwylio, ac eisteddwch yn llonydd.

Athletwyr tanddwr

Er eu bod yn drwsgl ar y tir, mae morloi llwyd yn athletwyr yn y dŵr. Gall morloi nofio hyd at 100 cilometr y dydd. Gallant ddal eu gwynt am awr a hanner o dan y dŵr, a phlymio i ddyfnderoedd o bron i 1,500 metr.