
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Ar hyd a lled Cymru, mae diwedd yr haf yn dod â rhai o liwiau cyfoethocaf y flwyddyn i’r ardd. Wrth i’r tymor ddechrau paratoi’r ffordd ar gyfer yr hydref, dyma rai o’r gerddi gorau i’w mwynhau, gydag arwyddion cyntaf yr hydref yn dechrau ymddangos hefyd.
Ddiwedd yr haf, mae Gardd Egsotig Dyffryn ar ei gorau, gyda chanopïau uchel a phlanhigion trofannol yn llenwi’r borderi. Bydd y dahlias a’r lilis sinsir yn parhau i flodeuo hyd at y barrug cyntaf, a hefyd yr Hedychium siccum, gan wneud hwn yn un o adegau mwyaf lliwgar y flwyddyn yn yr ardd.

Daw diwedd yr haf â llewyrch olaf o liw i derasau Eidalaidd yr 17eg ganrif. Cadwch lygad am egroes rhosod, bywlysiau a dahlias ar Deras yr Orendy, tra bod cosmos pinc yn llenwi borderi’r Teras Isaf wrth i’r ardd ddechrau ei thrawsnewidiad i’r hydref.

Daw diwedd yr haf ag arwyddion cyntaf yr hydref i Gastell y Waun, wrth i Winwydden Virginia droi waliau’r castell o wyrdd i goch ac aur cyfoethog. Mae’r colchicum, y cwyros lliwgar a’r coed masarn tanllyd yn ychwanegu at yr arddangosfa liwgar, tra bod gwinwydd dringo yn fframio’r castell a Thŷ’r Hebog.

Mae’r Ardd ffurfiol Uchaf yn rhoi sioe wefreiddiol ym Modnant ar ddiwedd yr haf, gyda llwyni sy’n hwyr yn blodeuo a phlanhigion parhaol yn llenwi’r borderi. Mae’r terasau rhosod hefyd yn dal gafael ar eu blodau olaf o’r tymor, gan ddod â gwledd i’r llygaid cyn i liwiau’r hydref gymryd drosodd.

Darganfyddwch natur a bywyd gwyllt ar lwybr glan llyn ystâd Tŷ Tredegar. Gwyliwch adar yn nythu ar y llyn a rhyfeddwch at yr olaf o’r Rhodfeydd Derw yn y parc. Yn addas i’r teulu i gyd.

Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.

Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.

Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.

Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.

Visitors are invited to discover 15 National Trust Cymru places across Wales for free this September as part of Open Doors, Cadw's annual celebration of Welsh heritage.

Mae amodau anarferol o sych wedi datgelu pennod gudd o orffennol Llandeilo yn ystod y rhyfel yn Ninefwr, safle yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Sir Gaer.

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dathlu 50 mlynedd o Gasebo Colby yng Ngardd Goedwig Colby ac wedi lansio apêl codi arian i helpu i adfer y strwythur anarferol.

Mae archaeolegwyr wedi datgelu mai'r gwaith celf craig cynharaf ym Mhrydain y gwyddys amdani yw'r streipiau amlwg a baentiwyd mewn ogof ar Benrhyn Gŵyr . Mae'r tîm rhyngwladol a gynhaliodd yr ymchwil newydd yn ogof Bacon Hole, sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, wedi cadarnhau bod y gwaith celf wedi'i greu gan bobl 17,100 o flynyddoedd yn ôl.

Mae prosiect mawr i adfer mawndiroedd ar Y Migneint yn Eryri eisoes yn sicrhau manteision sylweddol i fywyd gwyllt, yr hinsawdd a dŵr, diolch i bartneriaeth gydweithredol rhwng RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Gwahoddir ymwelwyr i Gastell y Waun ar daith anhygoel drwy filiynau o flynyddoedd o hanes yr hinsawdd gyda lansio gosodiad pop-yp newydd sbon, ‘Gerddi Teithio Mewn Amser: O’r Ddaear Hynafol i Fywyd ar y Blaned Mawrth’.

Pleser i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw cyhoeddi y bydd ystafell arddangos newydd yn agor ym Mhlas Newydd, Ynys Môn yn ystod mis Mai, gan osod ffilm, ffasiwn a hanes ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn ailgyflwyno’r ymwelwyr i un o gyn-breswylwyr mwyaf rhyfeddol y tŷ, sef ‘Ardalydd y Ddawns’.

Mae pennod newydd arwyddocaol yn dechrau yn un o'r cartrefi hanesyddol a drysorir fwyaf ym Mhen Llŷn. Yn dilyn cwblhau prosiect ail-doi sylweddol yn 2024, mae ymchwiliadau manwl ym Mhlas yn Rhiw wedi cadarnhau y bydd y cam nesaf o'i adfer yn dechrau'r gwanwyn hwn. Er mwyn galluogi cynnal y gwaith cadwraeth hanfodol hwn yn ddiogel, bydd y tŷ yn aros ynghau drwy gydol tymor 2026.

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.

Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.

Cyfle i ddarganfod arddangosfa newydd ar fywyd rhyfeddol y 5ed Ardalydd Môn yn cynnwys pump o wisgoedd o’r ffilm Madfabulous | Discover more about the 5th Marquess of Anglesey, including five costumes from the film Madfabulous.
Traditional skills are at the heart of Llanerchaeron, which continues to be a working farm to this day...
Camwch i mewn i'r Ystafell Gerdd i fwynhau perfformiad goleuadau o bob lliw | Step into the Music Room to enjoy colourful projected dancers.
Diddordeb mewn sesiynau caiacio'r arfordir yn Aberdaron? | Interest in kayaking the coastline at Aberdaron?
John Abell returns to Dinefwr for his exhibition ‘Dod yn ol at fy Nghoed’. The Welsh proverb "Dod yn ôl at fy nghoed" translates to "to return to my trees" and signifies a return to a balanced state of mind.
Discover a new exhibition at Llanerchaeron, created by Vicky Ellis, which explore the lost shipwrecks of the Ceredigion coastline
Dewch i weld chwarelwyr yn arddangos y grefft unigryw o hollti a naddu llechi.| Come and see quarrymen demonstrating the unique craft of splitting and dressing slate.
Who were the Rhys family? Which member of the family was nearly murdered and how did they get their money? Join us every Tuesday and Thursday at 2pm to find out.

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)