
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.
Dewch o hyd i'r llefydd sy'n cynnal digwyddiadau Haf o Chwarae yng Nghymru dros wyliau'r haf.
Trefnwch y picnic perffaith yng Nghymru a gwledda yn yr awyr iach mewn ystâd fawreddog, ar draeth tlws neu mewn hafan goediog i fywyd gwyllt, gyda golygfeydd godidog o awyr agored Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Nid gerddi yn unig sy’n llawn bywyd a lliw ar hyn o bryd – mae’r dolydd y gofalwn amdanynt yn eu gogoniant hefyd yn ystod yr haf. Darganfyddwch ddôl i archwilio ar droed.
Mae’n amlwg pam mai’r rhosyn yw hoff flodyn y genedl o hyd – mae’n amhosib curo ei harddwch a’i arogl. Gydag arddangosfeydd trawiadol ledled Cymru, dewch i weld ein hoff rai o’u plith.
Crwydrwch o amgylch Terasau Eidalaidd Bodnant yn yr haf a chewch eich amgylchynnu gan dros 1,500 o flodau rhosod rhyfeddol. Mwynhewch olygfeydd trawiadol o fynyddoedd y Carneddau wrth ymgolli yn eu harogl.
Mae'r Ardd Rosynnau y Waun yn fôr o flodau persawrus yn ystod misoedd yr haf. Mae’r blodau’n cynnwys dringwyr tal fel Rosa ‘Madame D’Arblay’ gyda blodau pinc meddal tebyg i garnasiwn a Rosa ‘Blanc Double de Coubert’, rhosyn llwyn gwyn, ac mae popeth yn dod ynghyd i greu arddangosfa arbennig.
Mae digonedd o rosod yng Nghastell Powis. Maent yn tyfu ar gylchau, yn byrlymu wrth draed cerfluniau clasurol, ac yn gorlifo o’r borderi. Mae cannoedd o amrywiadau yn aros i gael eu darganfod.
Mwynhewch daith gydag arwyddion trwy ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam, sy’n eich arwain heibio’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser enwog.
Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi o gwmpas gardd hyfryd 5.5 erw Castell y Waun ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn a choetsis.
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
Darganfyddwch natur a bywyd gwyllt ar lwybr glan llyn ystâd Tŷ Tredegar. Gwyliwch adar yn nythu ar y llyn a rhyfeddwch at yr olaf o’r Rhodfeydd Derw yn y parc. Yn addas i’r teulu i gyd.
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Dysgwch am ein llwybrau aml-ddefnydd yn y mannau rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru sy’n addas ar gyfer pramiau ac yn berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai gyda chymorth symudedd.
Darganfyddwch y dihangfa ramantus berffaith yng Nghymru gyda theithiau cerdded golygfaol drwy'r lleoedd trawiadol yr ydym yn gofalu amdanynt. O goetiroedd heddychlon ac arfordiroedd dramatig i erddi hardd, mae'r lleoliadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol hyn yn cynnig lleoliad delfrydol i fwynhau natur a chreu atgofion parhaol gyda'ch anwylyd.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.
Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.
Yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ffurfio partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn i greu noddfa hanfodol ar gyfer rhywogaethau cacwn sy’n dirywio’n gyflym, gan gynnwys un o rywogaethau prinnaf y DU, y Gardwenynen Feinlais (Bombus sylvarum).
Dewch i wybod am Eisteddfod yr Urdd 2027 a fydd yn Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd.
National Trust Cymru have showcased exciting new additions at Tŷ Mawr Wybrnant aimed at enhancing the overall visitor experience at the historic site.
O ddydd Gwener 23 Mai, bydd Gerddi Dyffryn ger Caerdydd yn cynnal Helios, gwaith celf syfrdanol saith metr o hyd o'r haul gan yr artist o fri, Luke Jerram.
Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn creu Cofrestr Genedlaethol o Isrywogaethau Coed Afal o Gymru sy’n dynodi 29 o wahanol fathau o afalau o Gymru er mwyn helpu i ddiogelu treftadaeth afalau gyfoethog Cymru.
Chwarelwyr yn symud o’r chwarel i’r castell fel rhan o raglen ailddatblygu fawr Amgueddfa Lechi Cymru.
Mae tenantiaid newydd un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng nghalon Eryri wedi eu cyhoeddi wedi iddynt ennill ail gyfres Channel 4 National Trust: Our Dream Farm gyda Matt Baker.
Bydd ardal feithrinfa newydd hollbwysig yng Ngardd Bodnant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghonwy, Gogledd Cymru, yn helpu i ddiogelu casgliad byw'r ardd fyd-enwog am genedlaethau i ddod.
Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.
Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.
Rhowch gynnig ar 50 peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11 a ¾ wrth inni nesáu at dymor yr Hydref a’r Gaeaf. / Have a go at 50 things before you're 11 and 3/4 as the season moves into Autumn and winter.
Ymunwch â ni ar antur i ganfod darnau o’r paentiad o’n Gasebo yn yr Ardd Furiog / Join us on an adventure to discover pieces of the painting from our Gazebo in the Walled Garden.
Combine art and the great outdoors on a trip to Dyffryn Gardens this summer. From 20 June-18 July the gardens will become home to unique pieces of interactive outdoor art.
Dewch i weld chwarelwyr yn arddangos y grefft unigryw o hollti a naddu llechi.| Come and see quarrymen demonstrating the unique craft of splitting and dressing slate.
For three evenings in July, let the art of ballet and the atmosphere of the beautiful gardens transport you to the world of Giselle and her ghostly, romantic world.
Mae Llanerchaeron yn gwesteio 'Parkrun' am 9yb pob Dydd Sadwrn, dewch at eich gilydd i redeg, cerdded neu loncian. | Llanerchaeron hosts parkrun at 9am sharp, every Saturday morning, get together, walk, run or jog.
Byddwch yn rhan o’r Park Run sydd am ddim yng Ngardd Goetir Colby bob dydd Sadwrn / Be part of the amazing Free Park run free every Saturday at Colby Woodland Garden.
Helpwch ni i gofnodi bywyd gwyllt yn Ystâd Southwood / Help us record wildlife at the Southwood Estate
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)