Llwybr teganau hudol Erddig

Mae hi’n amser meddwl tu allan i’r bocs teganau y gaeaf hwn, ac mae cynnwys ein bocs ninnau wedi deffro a dod yn fyw. Newydd ar gyfer Nadolig 2017, bydd Erddig yn gartref i daith bocs teganau gaeaf hudol.

Meddyliwch y tu allan i’r bocs teganau


Mae’r teganau wedi deffro a dianc o’u gaeafgysgu ac maen nhw’n crwydro gerddi muriog 12.5 erw Erddig.


Dilynwch olion traed anifeiliaid Arch Noa, cuddiwch ymysg y doliau Rwsiaidd a dawnsiwch gyda’n balerina blwch cerdd, i gyd wedi’u lleoli yng ngerddi ac adeiladau allanol rhestredig Gradd 1 eiconig Erddig.

Discover Erddig's Fantastical Winter Toybox trail
A giraffe from Noah's ark forms part of Erddig's Fantastical Winter Toybox trail

Gweithio gyda Wild Rumpus


Rydyn ni’n gweithio gyda menter gymdeithasol Wild Rumpus i gyflwyno’r profiad teuluol rhyfeddol hwn.

Make magical memories at Erddig this winter
A mother and young son work together to solve the giant soldier puzzle

 

Fyny grisiau a lawr grisiau.


O Ragfyr 1 i 24, cewch fynediad i’r tŷ i gynhesu ger y tân, lle bydd arogleuon gwin sbeislyd a choginio’r Ŵyl yn llenwi’r awyr wrth i’r tŷ baratoi ar gyfer y Nadolig.

Listen out for the sound of Christmas carols played on the restored Bevington organ in the decorated Entrance Hall
Erddig Entrance Hall with decorated tree and gift-wrapped presents by candlelight

Cewch fentro fyny grisiau i galon dathliadau’r teulu Yorke, lle gwelir y Cyntedd wedi’i addurno fel ag y byddai dros 100 mlynedd yn ôl gyda choeden Nadolig hudolus, sanau ac anrhegion.

Ewch i fyd y gweision a’r morynion yn Erddig
A warm fire glows in Erddig's range cooker in the large kitchen below stairs

Carolau Nadolig


Am y tro cyntaf ers inni agor ym 1977, i gyfeiliant yr organ Bevington, a adnewyddwyd yn ddiweddar, bydd yr awyr yn atsain â charolau Nadolig.